Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Ysgrifennu at y staff rydych chi wedi eu hail-gofrestru

Bydd yn rhaid ichi wneud hyn ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad ail-gofrestr

Mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi, chwe wythnos ar ôl eich dyddiad ail-gofrestru, i ysgrifennu at bob aelod o staff i roi gwybod iddyn nhw eich bod chi wedi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Mae'n bosib y bydd eich darparwr pensiwn yn fodlon gwneud hyn ar eich rhan neu gallwch ddiwygio'n templed llythyr enghreifftiol.

Cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio

Unwaith ichi ailgofrestru eich staff ac ysgrifennu atyn nhw, mae'n rhaid ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni sut bu ichi gyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol.

Mae'n rhaid ichi gwblhau a chyflwyno eich ail-ddatganiad cydymffurfio ymhen pum mis ers iddi fod yn dair blynedd ers eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.

Mae'n ddyletswydd cyfreithiol arnoch chi fel y cyflogwr i ofalu caiff yr ail-ddatganiad ei gwblhau ar amser a bod yr wybodaeth yn gywir. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio bydd dal angen ichi gwblhau dyletswyddau parhaus yn ymwneud â'ch staff.

Cwblhau'ch Ail-ddatganiad Cydymffurfio >