Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Beth os nad oes gennyf unrhyw staff?

Nid yw dyletswyddau cofrestru awtomatig yn gymwys os na chaiff cwmni neu unigolyn ei ystyried yn gyflogwr.

Rydych yn dal yn gyflogwr os ydych yn cyflogi rhywun sydd ddim yn bodloni'r meini prawf i'w cofrestru ar gynllun pensiwn.

Ni fydd gennych unrhyw ddyletswyddau os byddwch yn bodloni un o’r meini prawf a ganlyn:

  • rydych yn unig gyfarwyddwr ar fudiad neu fusnes heb unrhyw staff eraill
  • mae gan eich mudiad neu fusnes nifer o gyfarwyddwyr ond does gan yr un ohonyn nhw gytundeb gwaith a does gennych chi ddim staff eraill
  • mae gan eich mudiad neu fusnes nifer o gyfarwyddwyr a dim ond un ohonyn nhw sydd â chytundeb gwaith a does gennych chi ddim staff eraill
  • mae eich mudiad neu fusnes wedi dod i ben. Mae'r dewis hwn ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru ar Dŷ'r Cwmnïau.
  • mae eich mudiad neu fusnes wedi ei ddiddymu. Mae'r dewis hwn ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru ar Dŷ'r Cwmnïau.
  • rydych yn bartneriaeth neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac rydych chi wedi rhoi'r gorau i fasnachu am byth
  • rydych yn unig fasnachwr ac rydych wedi rhoi'r gorau i fasnachu am byth
  • rydych yn unigolyn ac wedi rhoi'r gorau i gyflogi unrhyw un yn eich cartref (glanhäwr, mamaeth, cynorthwyydd gofal personol ac ati)

Sut i roi gwybod inni nad ydych chi'n gyflogwr

Os nad ydy dyletswyddau cofrestru awtomatig yn berthnasol ichi ac rydych chi wedi derbyn llythyr gennym ni, bydd angen ichi roi gwybod inni nad ydych chi'n gyflogwr drwy gwblhau ffurflen ar-lein.

Fodd bynnag, os ydych chi'n unigolyn ac wedi rhoi'r gorau i gyflogi unrhyw un yn eich cartref (glanhäwr, mamaeth, cynorthwyydd gofal personol ac ati) cysylltwch gyda ni i roi gwybod os gwelwch yn dda..

Os ydych chi’n gweithio’n llawrydd neu yn hunangyflogedig, does dim angen ichi ddweud wrthym ni nad ydych chi’n gyflogwr, oni bai eich bod chi’n derbyn llythyr gennym ni.

Bydd dal angen ichi gwblhau dyletswyddau cofrestru awtomatig a ni ddylech chi gwblhau'r ffurflen hon os ydy'r isod yn berthnasol ichi:

  • rydych chi'n cyflogi unrhyw un sydd ddim yn bodloni'r meini prawf i'w cofrestru ar gynllun pensiwn
  • mae eich mudiad neu fusnes hefo fwy nag un cyfarwyddwr gytundeb gwaith - gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gytundebau gwaith ar yr adran statws cyflogaeth ar wefan GOV.UK.
  • rydych yn bwriadu cyflogi rhywun

Am fwy o wybodaeth am eich dyletswyddau cofrestru awtomatig defnyddiwch ein hofferyn ar-lein.

Eich dyletswyddau cyfreithiol

Mae hi’n gyfrifoldeb ar gyflogwyr i gwrdd â’u dyletswyddau cyfreithiol o ran cofrestru awtomatig.

Os ydych chi'n rhoi gwybod inni nad ydych chi'n gyflogwr, mae'n golygu eich bod chi'n datgan nad oes gennych chi ddyletswyddau cofrestru awtomatig o dan y Ddeddf Pensiynau 2008.

Os ydych chi'n cyflwyno gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i osgoi eich dyletswyddau, mae'n bosib y cewch chi ddirwy neu eich erlyn.

Beth os ydy fy amgylchiadau yn newid?

Os bydd eich amgylchiadau yn newid fel bod dyletswyddau cofrestru awtomatig yn berthnasol ichi, bydd angen ichi ddweud wrthym ni am hyn cyn gynted â phosibl.

Dweud wrthym ni nad ydych yn gyflogwr

Os ydych chi wedi rhoi'r gorau i gyflogi unrhyw un yn eich cartref, cysylltwch gyda ni i roi gwybod.