Skip to main content

Cofrestru Awtomatig - cyflogi staff am y tro cyntaf

Darganfod beth sydd yn rhaid ichi ei wneud os ydych chi'n cyflogi staff am y tro cyntaf o Hydref y 1af 2017.

Mae'n bwysig eich bod yn deall beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd, er mwyn ichi gyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig mewn pryd. Mae eich dyletswyddau cyfreithiol yn dechrau ar y dyddiad y mae eich aelod cyntaf o staff yn dechrau gweithio. Dyma ydy eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Atebwch y cwestiynau canlynol er mwyn ichi ddarganfod beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd. Hyd yn oed os ydych chi'n meddwl nad oes angen ichi gofrestru eich staff ar gynllun, mi fydd gennych chi ddyletswyddau i'w cyflawni beth bynnag.

Ydych chi'n cyflogi staff am y tro cyntaf?

Atebwch 'ydw' os...

  • ydych chi'n cyflogi o leiaf un person ar hyn o bryd neu,
  • rydych yn ystyried cyflogi rhywun
  • ydy'ch aelod presennol o staff ddim yn ennill digon i orfod talu trethi neu yswiriant gwladol

Atebwch 'nac ydw' os...

  • ydych chi'n gyfarwyddwr ar fusnes heb unrhyw fwriad o gyflogi neb
  • rydych chi'n llawrydd neu'n hunan-gyflogedig
  • mae gan eich cwmni nifer o gyfarwyddwyr ond does gan yr un ohonyn nhw gytundeb gwaith
  • Dydy eich busnes ddim yn gweithredu mwyach
Ydw Nac ydw
home.employers.page