Mae rhaid i chi wneud hyn dri mis cyn eich dyddiad gosod.
Rydych chi wedi dweud wrthym ni o'r blaen nad oes gennych chi unrhyw un mae'n rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ar eich dyddiad gosod.
Gwiriwch eto faint fydd eich cynorthwyydd gofal person yn ei ennill a faint fydd eu hoed nhw ar eich dyddiad gosod. Bydd hyn yn dweud wrthych chi a fu newid yn eich dyletswyddau.
Os bydd eich cynorthwyydd gofal personol rhwng 22 mlwydd oed ac oed pensiwn y wlad ac yn ennill mwy na £833 y mis neu £192 yr wythnos, mae'n rhaid i chi eu rhoi nhw ar gynllun pensiwn ar eich dyddiad gosod.
Mae rhaid i chi wirio a oes rhywbeth wedi newid gan ddefnyddio ein Teclyn Gwirio’ch Dyletswyddau.
Does gen i neb i'w roi ar gynllun pensiwn
Os nad oes unrhyw beth wedi newid a does gennych chi neb i'w roi ar gynllun pensiwn
ar eich dyddiad gosod ewch i ran nesa'r canllaw hwn sef Beth i'w wneud
ar eich dyddiad gosod. Mae gennych chi orchwylion eraill i'w gwneud yn dal i
fod.