Ein hamcanion
Mae Deddf Pensiynau 2004 a 2008 yn rhoi amcanion penodol i’r Rheolydd Pensiynau:
- Diogelu budd-daliadau aelodau cynlluniau pensiwn yn y gwaith
- Hybu gweinyddu da a gwella dealltwriaeth o gynlluniau pensiwn yn y gwaith
- Lleihau’r risg o sefyllfaoedd yn codi a all arwain at hawlio iawndal gan y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF)
- Mwyhau cydymffurfiant cyflogwr gyda dyletswyddau cyflogwr (gan gynnwys y gofyn i gofrestru’n awtomatig gyflogai cymwys i mewn i ddarpariaeth pensiwn cymhwysol gyda lleiafswm cyfraniad) a gyda rhai amddiffyniadau cyflogaeth.
Mae ein hadran diwygio pensiynau’n dweud mwy wrthych am gofrestru’n awtomatig.
Ein hymagwedd
Ein rôl yw sicrhau bod pobl sy’n gyfrifol am ddarparu mynediad i ac am reoli pensiynau yn y gwaith yn cyflawni eu goblygiadau. Rydyn ni’n gweithio gydag ymddiriedolwyr, cyflogwyr, arbenigwyr pensiynau a chynghorwyr busnes gan roi arweiniad ac addysg i egluro’r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw a’u galluogi i gyflawni safonau uchel. Wrth gefnogi pobl i gyflawni eu cyfrifoldebau, byddwn ni’n llawdrwm ar y rhai nad sy’n parchu eu goblygiadau.
Beth yw cynllun pensiwn ‘yn y gwaith’?
Cynllun pensiwn yn y gwaith yw unrhyw gynllun y mae cyflogwr yn ei gynnig i gyflogai. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau galwedigaethol, ac unrhyw gynlluniau pensiwn budd-ddeiliaid a phersonol lle mae trefniadau talu’n uniongyrchol ar gael i gyflogai.
- Publication Cynllum laith Gymraeg: 2008 (PDF, 85kb, 14 pages)
- Publication Welsh language schemes (PDF, 75kb, 13 pages)




