Ein pwerau

Mae Deddf Pensiynau 2004 yn rhoi ystod o bwerau i ni - ynghyd â’r rhai roedden ni’n eu hetifeddu oddi wrth ein rhagflaenydd Opra - i’n galluogi i gyflawni ein hamcanion. Rydyn ni’n defnyddio’r pwerau hyn yn hyblyg, yn rhesymol ac yn briodol gyda’r nod o gywiro pethau a chadw cynlluniau ar y llwybr cywir dros y tymor hir.

Mae ein pwerau mewn tri chategori eang:

  • Ymchwilio i gynlluniau: sut rydyn ni’n casglu gwybodaeth i’n helpu i ganfod a monitro risgiau.
  • Cywiro pethau: yr hyn y gallwn ei wneud pan fydd problemau wedi ymddangos.
  • Gweithredu yn erbyn osgoi: sut byddwn ni’n sicrhau nad yw cyflogwyr yn lletgamu eu goblygiadau pensiwn.

Ymchwilio i gynlluniau

Rydyn ni’n casglu data drwy ddatganiadau’r cynllun. Rydyn ni hefyd yn disgwyl derbyn adroddiadau gan ‘chwythwyr chwiban’am doriadau cyfraith sylweddol ac adroddiadau am ddigwyddiadau y gellir eu hysbysu gan ymddiriedolwyr a chyflogwyr.

Mae ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau hefyd yn gyfrifol am ein hysbysu ar unwaith am newidiadau i wybodaeth ‘gofrestradwy’ fel cyfeiriad y cynllun, manylion yr ymddiriedolwyr, neu’r mathau o fudd-daliadau a ddarperir gan y cynllun.

Ariannu cynlluniau

Disgwyliwn hefyd gael adroddiadau lle na all cynllun gydymffurfio’n llwyr gyda fframwaith ariannu’r cynllun newydd. Os oes diffyg yn y cynllun, disgwyliwn gael gwybodaeth am ariannu’r cynllun.

Dogfennau a gwybodaeth arall

Hefyd, gallwn fynnu cael dogfennau (neu wybodaeth arall) gan ymddiriedolwyr a chyflogwyr, ymhlith eraill. Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’n gwaith fel rheolydd y gallwn ni ei mynnu.

Cywiro pethau

Pan fyddwn ni’n penderfynu bod yn rhaid cymryd camau i ddiogelu diogeledd budd-daliadau’r aelodau, mae ystod o opsiynau’n agored i ni. Bydd y cam fyddwn ni’n ei gymryd, wrth gwrs, yn dibynnu ar amgylchiadau’r broblem. Dyma rai enghreifftiau o’r camau rheoli y gallwn ni eu cymryd:

  • Gallwn anfon rhybudd gwella i unigolion neu gwmnïau neu rybudd trydydd parti, sy’n gofyn am gymryd camau penodol o fewn amser penodol.
  • Gallwn weithredu, ar ran cynllun, i adennill cyfraniadau nad sydd wedi’u talu gan y cyflogwr os yw’r dyddiad pan oedd yn ddyledus wedi mynd heibio.
  • Pan fydd dirwyn cwmni i ben ar y gorwel a’n bod yn credu y gall budd aelodau fod mewn perygl, gallwn anfon gorchymyn rhewi. Mae’r gorchymyn hwn yn atal pob gweithgaredd o fewn y cynllun er mwyn i ni allu ymchwilio i bryderon ac annog trafodaethau.
  • Gallwn wahardd ymddiriedolwyr nad sy’n cael eu hystyried yn bobl addas a chywir i’r rôl.
  • Pan fydd tor cyfraith wedi digwydd, gallwn osod dirwyon.
  • Gallwn erlyn rhai troseddau yn y llysoedd troseddau.

Gweithredu yn erbyn osgoi

Mae gennym bwerau i weithredu lle byddwn ni’n credu bod cyflogwr yn fwriadol yn ceisio osgoi ei oblygiadau pensiwn gan adael y Gronfa Diogelu Pensiynau i gyflawni ei gyfrifoldebau pensiwn. I ddiogelu budd-daliadau aelodau’r cynllun, ac i leihau amlygiad y Gronfa Diogelu Pensiynau i hawliadau am iawndal, gallwn anfon un o’r canlynol:

  • Rhybudd cyfraniad. Mae hwn yn caniatáu i ni ddweud, pan fydd cais bwriadol i geisio osgoi dyled statudol, bod yn rhaid i’r rhai sy’n gwneud hyn dalu swm hyd at y ddyled statudol lawn naill ai i’r cynllun neu i fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau.
  • Cyfarwyddyd cymorth ariannol. Mae’r rhain yn gofyn am sicrhau cefnogaeth ariannol i gynllun sydd wedi’i danariannu lle byddwn ni’n dod i’r casgliad bod y cyflogwr sy’n noddi naill ai’n gwmni gwasanaeth neu lle mae adnoddau’n annigonol.
  • Gorchymyn adfer. Os bydd trafodion wedi bod sy’n tan werthuso asedau’r cynllun, mae hyn yn caniatáu i ni gymryd camau i roi’r asedau (neu eu gwerth cyfatebol) yn ôl i mewn i’r cynllun.

Mae gweithdrefn glirio ar gael i unrhyw un sy’n dymuno cadarnhau na fydd yn destun rhybudd cyfraniad neu gyfarwyddyd cymorth ariannol yn dilyn trafodyn arfaethedig. 

Sut byddwn ni’n cefnogi ein cwsmeriaid

Mae gan y Rheolydd Pensiynau ystod o bwerau i ddelio â phroblemau cynlluniau pensiwn, ond ein bwriad yw peidio â defnyddio’r rhain yn aml. Ein hymagwedd yw:

  • annog safonau uchel wrth redeg cynlluniau;
  • canfod, rhagweld ac atal problemau; a
  • chanolbwyntio ar sicrhau deilliannau llwyddiannus.

Cyswllt gyda chynlluniau

Bydd ein perthynas gyda chynllun yn cael ei benderfynu’n bennaf drwy ein proses asesu risg. Fodd bynnag, pan fydd hynny’n briodol, gallwn gysylltu ag unrhyw gynllun i gynnig cyngor neu i drafod gweithdrefnau - er enghraifft, i atal mân dorcyfraith rhag digwydd yr ail waith.

Canllaw a chodau ymarfer

Agwedd bwysig o waith rheolydd yw cyhoeddi canllaw ar gyfer y gymuned reoledig. Yn benodol, mae’r Ddeddf Pensiynau 2004 yn mynnu ein bod yn cyhoeddi cod ymarfer ar ystod o bynciau. Mae’r codau hyn yn:

  • darparu canllaw ymarferol i ymddiriedolwyr, cyflogwyr, gweinyddwyr ac eraill ar gydymffurfio gyda gofynion y ddeddf bensiynau; ac yn
  • amlinellu’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gennym.

Nid datganiadau o’r ddeddf yw’r codau, ac nid oes unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio â nhw. Fodd bynnag, pan na fydd rhywun wedi dilyn darpariaethau’r cod, disgwyliwn iddyn nhw allu dangos eu bod yn dal wedi cyflawni’r gofynion cyfreithiol gwaelodol.

Wrth ddatblygu’r codau, rydyn ni’n cynnal trafodaeth ac yn ymgynghori’n eang. Gweler maes Codau ymarfer y safle hwn i gael manylion yr amrywiol godau rydyn ni’n eu cyhoeddi a’r amserlen a drefnwyd ar gyfer ymgynghori.

Hyfforddi ymddiriedolwyr

Roedd y Ddeddf Pensiynau 2004 yn mynnu bod ymddiriedolwyr yn cael digon o wybodaeth a dealltwriaeth o bensiynau a chyfraith ymddiriedolwyr, ariannu cynllun galwedigaethol a buddsoddi mewn cynlluniau.
Disgwylir hefyd bod ymddiriedolwyr yn gwybod am rai dogfennau’n ymwneud â’u cynllun, fel gweithred yr ymddiriedolaeth, rheolau, datganiadau ariannu ac egwyddorion buddsoddi a dogfennau polisi eraill. 

Ein partneriaethau

Mae’r Rheolydd Pensiynau’n gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o gyrff rheoleiddio ac eraill – disgrifir y prif rai yma.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am ddatblygu polisi pensiynau’r DU a’r ddeddf sy’n rheoli cynlluniau pensiwn y DU. Gall y Rheolydd Pensiynau awgrymu newidiadau i’r ddeddf ond ni allwn wneud na newid deddfau na rheoliadau’r llywodraeth.

Cronfa Diogelu Pensiynau 
Fel y Rheolydd Pensiynau, mae hwn yn gorff cyhoeddus anadrannol a sefydlwyd gan y Ddeddf Pensiynau 2004.
Mae’r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn gynllun iawndal ar gyfer aelodau o gynlluniau pensiynau budd-daliadau diffiniedig cymwys lle mae’r cyflogwr sy’n noddi’n mynd yn fethdalwr ac nad oes digon o arian yn y cynllun. Telir costau’r gronfa, yn rhannol gan drethi y byddwn ni’n eu casglu.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r PPF i fonitro cynlluniau risg uchel a lleihau galwadau am iawndal. Rydyn ni’n defnyddio ein pwerau gwrth-osgoi i sicrhau nad yw cyflogwyr yn cymryd mantais o’r cynllun iawndal.

Y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Pensiynau’n darparu gwybodaeth ac arweiniad ar bob math o gynlluniau pensiwn. Bydd yn helpu pobl â phroblemau pensiwn unigol neu mewn anghydfodau.

Yr Ombwdsmon Pensiynau
Mae’r Ombwdsmon Pensiynau’n ymchwilio ac yn penderfynu ar gwynion ac anghydfodau am y modd y mae cynlluniau pensiwn yn cael eu rhedeg. Fel arfer, bydd yr Ombwdsmon yn cyfranogi dim ond pan fydd y broses datrys anghydfodau mewnol y cynllun pensiwn ei hun wedi methu â datrys cwyn.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio gwerthiant a marchnata pensiynau personol a budd-ddeiliaid i unigolion. Mae hefyd yn goruchwylio hyfywdra ariannol sefydliadau sy’n rheoli buddsoddiadau pensiwn a gall gymryd camau i sicrhau bod yr unigolion sy’n rhedeg sefydliadau ariannol yn addas ac yn briodol i’r dasg.

Pwyllgor Goruchwylwyr Yswiriant a Phensiynau Galwedigaethol Ewrop
Mae Pwyllgor Goruchwylwyr Yswiriant a Phensiynau Galwedigaethol Ewrop (CEIOPS) yn gorff cynghori a sefydlwyd i weithredu deddfwriaeth yswiriant a phensiynau’r Undeb Ewropeaidd (EU).

Mae’r Rheolydd Pensiynau’n aelod o weithgor CEIOPS sy’n ystyried gweithredu’n effeithlon y Gweithgareddau Cyfeiriol Ewropeaidd a goruchwylio sefydliadau ar gyfer darpariaethau ymddeoliad galwedigaethol (Cyfarwyddyd 2003/41/EC), a materion ymarferol fydd yn codi o’r darpariaethau ar gyfer cynlluniau pensiwn trawsffiniol. Mae’r grwp yn gweithio tuag at ddealltwriaeth gyffredin o’r Cyfarwyddyd er mwyn iddo allu ystyried y systemau sydd eu hangen ar gyfer cydweithio a chydlyniant priodol. Cynrychiolir y Rheolydd Pensiynau ar CEIOPS.

© The Pensions Regulator 2012