Beth yw’r newidiadau

O 2012, bydd y newidiadau yn annog mwy o bobl i gynilo mewn pensiwn a gwneud hynny’n hawdd iddyn nhw.

Mae’r rhan helaeth o ddiwygio pensiynau yn y gwaith yn gyfrifoldeb cyflogwyr i gofrestru’n awtomatig pob un o’u deilwyr swyddi cymwys i mewn i gynllun pensiwn cymhwysol.

Pam maen nhw’n digwydd

Gan fod pobl yn awr yn byw’n hirach nag erioed o’r blaen, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd fydd yn annog mwy o weithwyr i gynilo’n ddigonol ar gyfer yr hyn a all fod yn ymddeoliad hir.

Nid oes llawer o bobl yn cynilo digon i roi safon byw rhesymol iddyn nhw ar ôl iddyn nhw roi’r gorau i weithio. Nid oes rhai pobl yn cynilo o gwbl.

Cyflwynodd Deddf Pensiynau 2008 ddiwygiadau fydd yn rhoi mynediad i fwy o bobl i bensiwn o safon dda, yn arbennig y rhai ar incwm isel i ganolig.

Pryd mae’n dechrau

O 2012, bydd disgwyl i gyflogwyr gofrestru’n awtomatig eu holl ddeilwyr swyddi cymwys i mewn i gynllun pensiwn cymhwysol ac i gyfrannu tuag ato. Bydd pob cyflogwr yn cael dyddiad pryd bydd y newidiadau’n digwydd, a elwir yn ddyddiad gweithredu.

Ble mae hyn yn gymwys

Bydd y Ddeddf Pensiynau 2008 yn gymwys ar draws Prydain Fawr. Disgwylir y bydd senedd ddatganoledig Gogledd Iwerddon hefyd yn pasio deddf i’w gweithredu yno.

Rhaid i bob cyflogwr gofrestru eu cynlluniau gyda’r Rheolydd Pensiynau.

© The Pensions Regulator 2012