Fe ddylech wneud hyn cyn eich dyddiad gweithredu
Fe fydd angen cynllun pensiwn arnoch sydd yn cyd-fynd ag ymrestru awtomatig. Fe fyddwch chi a’ch gweithwyr yn talu arian i’r cynllun er mwyn helpu eich gweithwyr gynilo arian ar gyfer eu hymddeoliad.
Os nad ydych am ddefnyddio cynllun pensiwn sy’n bodoli eisoes, fe fydd angen i chi ddod o hyd i gynllun eich hun neu ofyn am gymorth gan eich cyfrifydd neu gynghorydd ariannol.
Fe ddylech edrych ar gynlluniau gwahanol cyn penderfynu pa un sy’n addas ar eich cyfer chi a’ch gweithwyr.
Fe ddylech chi ddewis cynllun addas sydd wedi ei adolygu'n annibynnol neu gaiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. O'r cynlluniau hyn, mae'r canlynol wedi rhoi gwybod inni eu bod yn fodlon cynnig cynlluniau i gyflogwyr cwmnïau bach:
Mae angen ichi wirio nifer o bethau cyn dewis cynllun pensiwn. Bydd angen ichi wirio a fydd y cynllun yn gymwhys i'ch holl staff, cost y cynllun, a ydy'r cynllun yn defnyddio'r dull rhyddhad treth gorau i'ch cwmni chi a hefyd gwirio ydy'r cynllun yn gymwys ar gyfer eich cyflogres. Mwy o wybodaeth am sut i ddewis cynllun pensiwn.
Os oes gennych chi gyfrifwyr, efallai y gallant eich helpu chi ddod o hyd i gynllun neu gynghorwr arianol a all roi cymorth i chi.
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfeirlyfr cynghorwyr ymddeoliad y Gwasanaeth Cyngor Ariannol , sydd â chynghorwyr i'ch helpu chi ddewis cynllun pensiwn ar gyfer cofrestru awtomatig.
I wirio a ydy cynghorydd wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, chwiliwch cofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Efallai bod cynllun gennych chi eisoes ar gyfer eich gweithwyr sy’n ‘bensiwn rhanddeiliaid’. Os oes arnoch chi eisiau defnyddio’r cynllun hwnnw, gofynnwch i’r darparwr a ydy’n cyflawni eich cyfrifoldebau ymrestru awtomatig.
Os nad oes modd i chi ddefnyddio’ch cynllun pensiwn presennol fe fydd angen i chi ddewis cynllun newydd sy’n cyflawni eich cyfrifoldebau ymrestru awtomatig.
*Mae llawer iawn o gynlluniau pensiwn eraill sydd ar gael sydd heb eu rhestru ar y wefan hon. Efallai y bydd ffyrdd eraill hefyd i gynlluniau ddangos i gyflogwyr fod eu cynlluniau yn rhedeg yn dda. Dydy hi ddim yn gyfrifoldeb arnom ni i wirio fod honiadau cynlluniau yn gywir.
Ni allwn ni argymell na chefnogi unrhyw gynllun pensiwn na sefydliad penodol. Dydy cynnwys unrhyw gynllun neu sôn am unrhyw sefydliad ar y wefan hon ddim yn sicrhau eu bod nhw'n addas. Mae'r tudalennau gwe hyn wedi'u darparu er mwyn rhannu gwybodaeth a chyfarwyddyd yn unig.
Rŵan eich bod wedi dewis cynllun pensiwn, fe fydd angen i chi roi eich gweithwyr arno. Fe fydd y cam nesaf yn eich helpu â hyn.