Efallai y byddwch eisiau cynnwys:
- llythyrau anfonoch i staff
- hysbysiadau gohirio
- hysbysiadau optio mewn, hysbysiadau optio allan
- cofnodion sy'n dangos pryd y rhoddwyd staff ar eich cynllun pensiwn
- ciplun o wefan eich darparwr pensiwn yn dangos cofrestriadau neu daliadau
- mantolen banc yn dangos taliadau
- llythyr gan eich cynllun yn dangos pryd y gwnaethoch gyfraniadau a chyfnod y taliadau
- tystiolaeth o pryd y ceisioch lenwi'r Datganiad Cydymffurfio ar-lein
- cytundebau cyflogaeth neu hysbysiadau diswyddo
- tystiolaeth eich bod wedi peidio â gwerthu
- dogfennau yn ymwneud ag achos o fethdaliad
- tystiolaeth o'ch cynllun PAYE
Os ydych yn gofyn am adolygiad oherwydd na allwch fforddio cydymffurfio a'ch dyletswyddau, yna dylech lenwi ffurflen caledi ariannol (DOC, 696kb, 2 dudalen) ac anfon gwybodaeth ariannol am eich busnes megis eich cyfrif elw a cholled ddiweddaraf, mantolen a manylion eich llif arian.
Dim ond wrth wneud cais am adolygiad y gellir defnyddio ffurflen caledi ariannol. Gallwch atodi'r ffurflen orffenedig fel dogfen i'r cais adolygiad ar-lein.
Os na allwch fforddio talu eich cosb, cysylltwch â'n tîm adfer dyled ar 0800 169 0325.