Canfod eich dyletswyddau ail-gofrestru
Rydw i yn neu mi fydda i yn gyflogwr heb unrhyw un i'w hail-gofrestru ar fy nghynllun pensiwn
Rydych chi wedi dewis yr opsiynau canlynol:
- rydych chi wedi cofrestru staff ar eich cynllun pensiwn ar neu ers eich dyddiad gosod
- dyma'r tro cyntaf y gofynnwyd i chi gwblhau ailddatganiad o gydymffurfiaeth
- bu gennych chi staff sydd wedi dadgofrestru o'r cynllun neu wedi dewis lleihau eu cyfraniadau
- ac ni fydd unrhyw un o’r aelodau staff hyn yn ennill mwy na £192 yr wythnos (£833 y mis neu £10,000 y flwyddyn) pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu
Pwysig
Mae'n rhaid ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio rŵan er mwyn rhoi gwybod inni nad oes gennych chi unrhyw un i'w hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
- Gwnewch hyn o fewn pum mis i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau cofrestru awtomatig neu eich dyddiad gweithredu.
- Mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gwblhau eich ail-ddatganiad mewn pryd. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwyon.
- Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio bydd dal angen ichi gwblhau dyletswyddau yn ymwneud â'ch staff.