Canfod eich dyletswyddau ail-gofrestru
Ailgofrestru nesaf
Rydw i yn neu mi fydda i yn gyflogwr heb unrhyw un i'w hail-gofrestru ar fy nghynllun pensiwn
Gwnaethoch ddewis yr opsiynau canlynol:
- rydych wedi rhoi staff yn eich cynllun pensiwn ar neu ers eich dyddiad ailgofrestru blaenorol
- nid dyma'r tro cyntaf y gofynnwyd i chi gwblhau ail-ddatganiad cydymffurfio
- does yr un o'r staff hyn wedi dadgofrestru o'r cynllun neu wedi dewis lleihau eu cyfraniadau
- ac ni fydd unrhyw un o’r aelodau staff hyn yn ennill mwy na £192 yr wythnos (£833 y mis neu £10,000 y flwyddyn) ar drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol
- bydd rhai o'r aelodau staf hyn rhwng 22 oed ac oed pensiwn y wladwriaeth pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyddiad pen-blwydd eich ailgofrestru blaenorol
Pwysig
Mae'n rhaid ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio rŵan er mwyn rhoi gwybod inni nad oes gennych chi unrhyw un i'w hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
- Gwnewch hyn o fewn 5 mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.
- Mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gwblhau eich ail-ddatganiad mewn pryd. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwyon.
- Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio bydd dal angen ichi gwblhau dyletswyddau yn ymwneud â'ch staff.
- Bydd angen eich cyfeirnod PAYE arnoch a naill ai eich cod llythyr neu gyfeirnod eich swyddfa gyfrifon i gychwyn arni.