Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn

Rhaid i chi lenwi a chyflwyno eich ffurflen ailddatganiad cydymffurfio cyn pen pum mis iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu’ch dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig. Ni fydd eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan ddim yn newid os ydych chi'n dewis dyddiad arall ar gyfer asesu'ch staff.

Mae'r ail-ddatganiad cydymffurfio yn ffurflen ar-lein ichi roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni'ch dyletswyddau cyfreithiol.

Hyd yn oed oes os rhywun arall (aelod o staff neu gynghorydd busnes) wedi eich helpu gyda'ch dyletswyddau, ac o bosib yn cwblhau'r ail-ddatganiad ichi, eich dyletswydd gyfreithiol chi fel y cyflogwr ydy gofalu caiff yr ail-ddatganiad ei gwblhau mewn pryd a bod yr wybodaeth yn gywir. Os nad ydych chi'n cydymffurfio gyda hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwyon.

Os oes gennych chi'r holl wybodaeth berthnasol i law, gall gymryd cyn lleied â 15 munud ichi gwblhau eich ail-ddatganiad.

Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus eraill ar ran eich staff fydd angen eu cwblhau.


Dechrau eich ail-ddatganiad rŵan

Er bod gennych chi bum mis i gwblhau eich ail-ddatganiad, rydym yn argymell eich bod yn ei gwblhau cyn gynted â phosib wedi iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu’ch dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig.

Dechrau arni

< Ail-ymrestry

Enghraifft o ddyddiad cau ar gyfer ail-ddatganiad

Dyddiad cychwyn y dyletswyddau 01 Gorff 16

Tair blynedd o’r dyddiad dechrau dyletswyddau.

01 Gorff 19
Dyddiad cau ar gyfer eich ail-ddatganiad
30 Tach 19
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.