Rydw i yn neu mi fydda i yn gyflogwr gyda staff i'w hail-gofrestru ar fy nghynllun pensiwn
Yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych wedi'i chyflwyno, mae angen ichi ail-gofrestru rhai staff ar eich cynllun pensiwn. Mae'n rhaid ichi gyflawni'r ddau gam isod, sef cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
Cofiwch, mae'r rhain yn ddyletswyddau cyfreithiol arnoch chi ac os na wnewch chi eu cyflawni mewn pryd mae'n bosib y cewch chi ddirwy.
Mae hefyd gofyn ichi barhau gyda'ch dyletswyddau parhaus eraill.
Cam 1: Ailgofrestru
Cam 2: Ail-ddatganiad
Cwblhau eich Ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn
Defnyddiwch ein rhestr wirio ar gyfer ail-ddatgan (PDF, 660kb, 2 dudalen) i gwblhau eich ail-ddatganiad i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn. Cofiwch wneud hyn erbyn eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan neu mae'n bosib y cewch chi ddirwy.
Gwnewch hyn o fewn pum mis i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau cofrestru awtomatig neu eich dyddiad gweithredu.
Osgoi gwallau cyffredin mewn dyletswyddau pensiwn
Canfyddwch sut gallwch chi osgoi gwneud nifer o wallau cyffredin mewn dyletswyddau pensiwn. Mae gwallau allweddol yn cynnwys defnyddio trothwyon enillion anghywir a chamgyfrifo cyfraniadau ar gyfer staff sy’n derbyn tâl mamolaeth.