2. Ysgrifennu at staff rydych wedi'u hail gofrestru ar eich cynllun pensiwn
Bydd hefyd gofyn ichi ysgrifennu at bob aelod o staff y mae angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn i roi gwybod am yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu (neu’r dyddiad hwyrach y penderfynoch asesu eich staff arno). Does dim rhaid ichi ysgrifennu at unrhyw staff nad ydych yn eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
Mae'n bosib y bydd eich darparwr pensiwn yn fodlon gwneud hyn ar eich rhan, neu gallwch ddiwygio ein templedi llythyrau enghreifftiol.
- Templed llythyr ar gyfer staff caiff eu gofrestru ar gynllun pensiwn ond sydd ddim yn derbyn gostyngiadau ar dreth
Word 38KB - Defnyddiwch y templed yma os ydy'r aelod o staff rydych wedi eu hail-gofrestru ddim yn derbyn gostyngiadau treth ar eu cyfraniadau oherwydd bod eich cynlluniau pensiwn yn defnyddio cytundeb taliadau net.
Beth nesaf?
Mae'n rhaid Mae'n rhaid Mae'n rhaid ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio.
Diweddaru manylion neu gofrestru ar gyfer ein rhybuddion e-bost
Gwiriwch eich manylion i sicrhau eich bod yn derbyn rhybuddion e-bost i'ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau ar gyfer ailgofrestru.
Enwebu cyswllt