Dim ond un dull y gall cynllun ei ddefnyddio ar gyfer eich holl staff, a bydd y dull rydych chi’n ei ddewis yn cael effaith wahanol ar staff ar gyflogau is a staff ar gyflogau uwch. Mae manteision i’r ddau ddull rhyddhad treth, a dydyn ni ddim yn argymell un dros y llall, ond mae’n syniad da i chi sicrhau bod y cynllun yn defnyddio'r dull gorau i chi.
Staff sydd ddim yn talu treth incwm
Os oes gennych chi staff sydd ddim yn talu treth incwm byddan nhw'n cael rhyddhad treth dim ond os byddwch chi'n dewis cynllun sy'n defnyddio rhyddhad wrth ffynhonnell. Os byddwch chi'n dewis cynllun sy'n defnyddio trefniadau tâl net, fydd yr aelodau staff hyn ddim yn cael rhyddhad treth a byddan nhw'n talu 20% yn fwy am eu pensiwn.
Efallai y bydd gan rai cynlluniau sy'n defnyddio trefniant tâl net ffioedd aelodau is ar gyfer eich staff felly bydd angen ichi ystyried hyn yn ofalus.
Os ydych chi'n defnyddio'r cynllun aberthu cyflog er mwyn rheoli cyfraniadau pensiwn, fydd staff sydd ddim yn talu treth incwm ddim yn derbyn rhyddhad treth pa bynnag ddull rhyddhad treth bydd eich cynllun yn ei ddefnyddio.
Staff sy'n talu treth
Os ydy'ch staff yn talu treth incwm byddan nhw'n cael rhyddhad treth pa bynnag gynllun fyddwch chi'n ei ddewis. Fodd bynnag, os oes gennych chi drethdalwyr cyfradd uwch a chyfradd ychwanegol a bod eich cynllun yn defnyddio rhyddhad wrth ffynhonnell, bydd angen iddyn nhw hawlio eu rhyddhad treth llawn drwy gwblhau hunan arfarniad treth.
Fe allwch chi gael gwybodaeth am gyfradd treth incwm ar GOV.UK.
Pa gynlluniau sy'n defnyddio pob dull rhyddhad treth*
1 Gostyngiad o'r tarddle ydy'r dewis diofyn ond mae'n bosib fod rhai cyflogwyr wedi dewis Oed Pensiwn Arferol (NPA) yn lle hynny.
2 Mae'n bosib y bydd cyflogwyr sylweddol yn defnyddio'r cynllun ar sail ymddiriedolwyr sy'n ymdrîn â Oed Pensiwn Arferol (NPA). (Mae'r Cynllun Grŵp Pensiwn Unigol (GPP) yn defnyddio Gostyngiad o'r Tarddle (RAS).
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am gynlluniau eraill ar gyfer cofrestru awtomatig ar y gwefan canlynol:
Efallai y bydd cynlluniau pensiwn yn cynnig gwasanaethau ychwanegol ichi, fel gweithio allan pwy sydd angen ei gofrestru ar gynllun pensiwn, prosesu ceisiadau i ymuno â'r cynllun neu helpu gyda'ch dyletswyddau cyfredol. Dylech chi ystyried oes arnoch chi angen y gwasanaethau hyn.
Dylech chi hefyd ystyried:
Meddalwedd cyflogres
Os ydych yn defnyddio meddalwedd cyflogres, gofynnwch i ddarparwr eich cyflogres a ydy o’n cyd-fynd â’r cynllun pensiwn yr hoffech ei ddefnyddio. Fe ddylech wirio a oes modd i’r meddalwedd wneud yr holl dasgau ar gyfer cofrestru awtomatig. Dysgwch fwy a gwiriwch fod eich proses cyflogres wedi'i osod ar gyfer cofrestru awtomatig.
Ysgrifennu at eich gweithwyr
Mae angen ichi ysgrifennu at eich staff ar wahân i egluro sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw, gan gynnwys sut mae rhyddhad treth yn gweithio. Mae’n bosib y bydd rhai cynlluniau pensiwn yn cynnig gwneud hyn ar eich rhan. Os nad ydy’ch cynllun yn gwneud hyn, mae gennym ni enghreifftiau o lythyrau y gallwch eu defnyddio. Neu efallai y bydd darparwr eich cyflogres yn cynnig y gwasanaeth yma.
Os nad ydy’r Saesneg yn iaith gyntaf i bob un o’ch gweithwyr, efallai yr hoffech ystyried a oes modd i’r cynllun gynnig cyfathrebu mewn ieithoedd eraill.
Cyfathrebu gyda'ch darparwr cynllun
Mae’n bwysig bydd darparwr y cynllun rydych yn ei ddewis yn cysylltu’n aml â’ch gweithwyr.
Gwiriwch fod y cynllun yn egluro'n eglur:
- faint o arian mae’r gweithiwr wedi ei arbed
- sut mae’r arian wedi ei fuddsoddi a beth ydy canlyniad y buddsoddi
- beth fydd amcanion cyfanswm y cynilon erbyn i'r gweithiwr ymddeol
- faint o’r cyfraniadau fydd yn mynd at dalu costa
a ydy cyfradd bresennol cynilon y gweithiwr yn debygol o alluogi iddo ymddeol fel y gobeithia.
- ydyn nhw'n gymwys ar gyfer rhyddhad treth ar beth maen nhw'n ei dalu i'r cynllun ac os oes angen iddyn nhw wneud unrhyw beth i'w hawlio
Dewisiadau buddsoddi
Mae rhaid bod gan unrhyw gynllun rydych yn ei ddewis ar gyfer cofrestru awtomatig ‘drefniant buddsoddi awtomatig’. Dyma le fydd arian eich staff yn mynd iddo, oni bai eu bod nhw'n dewis eu buddsoddiadau eu hunain. Mae cap o 0.75% ar gost i fod yn aelod o gynllun pensiwn o gronfeydd yr aelodau drwy drefniadau buddsoddi awtomatig.
Efallai y bydd angen i chi ystyried a ydy’r cynllun yn cynnig buddsoddiadau sy’n addas ar gyfer anghenion penodol eich gweithwyr e.e. cronfeydd moesol neu rai sy’n unol â chyfraith Sharia.
Dod o hyd i gynllun pensiwn
* Mae llawer iawn o gynlluniau pensiwn eraill sydd ar gael sydd heb eu rhestru ar y wefan hon. Efallai y bydd ffyrdd eraill hefyd i gynlluniau ddangos i gyflogwyr fod eu cynlluniau yn rhedeg yn dda. Dydy hi ddim yn gyfrifoldeb arnom ni i wirio fod honiadau cynlluniau yn gywir.
Ni allwn ni argymell na chefnogi unrhyw gynllun pensiwn na sefydliad penodol. Dydy cynnwys unrhyw gynllun neu sôn am unrhyw sefydliad ar y wefan hon ddim yn sicrhau eu bod nhw'n addas. Mae'r tudalennau gwe hyn wedi'u darparu er mwyn rhannu gwybodaeth a chyfarwyddyd yn unig.