Skip to main content
Menu

Cwyno am TPR

Os nad ydych chi'n hapus ynglŷn â sut mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) wedi gweithredu, gallwch ddefnyddio ein proses gwyno ffurfiol. Byddwn bob amser yn cymryd unrhyw faterion rydych chi'n eu codi o ddifrif.


Ar y dudalen hon


Beth sy'n cael ei gwmpasu gan ein proses gwyno

Dim ond cwynion yn ein herbyn ni y gallwn ymdrin â nhw. Mae hyn yn cynnwys cwynion am ein:

  • camgymeriadau neu ddiffyg gofal
  • oedi afresymol
  • ymddygiad amhroffesiynol
  • rhagfarn neu ddiffyg uniondeb

Os yw'ch cwyn yn ymwneud â chyflogwr nad yw'n bodloni ei ddyletswyddau pensiwn, neu nad yw'ch cynllun yn cael ei redeg yn iawn, gallwch roi gwybod i ni am y cynllun neu'r cyflogwr.

Sut i gwyno amdanom ni

Dylech gysylltu â'r aelod o staff neu'r tîm y gwnaethoch ddelio â nhw gyntaf i drafod eich pryderon. Efallai y byddant yn gallu datrys eich pryderon heb unrhyw oedi.

Os nad ydych chi'n fodlon â'r ffordd y gwnaethom ymdrin â'ch pryderon, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Gallwch wneud hynny trwy lenwi ein ffurflen gŵynion. 

Rydym yn eich annog yn gryf i gyflwyno eich cwyn yn electronig gan mai dyma'r ffordd gyflymaf a hawsaf i ni fynd i'r afael â'ch pryderon.

Fel arall, gallwch ysgrifennu atom yn:

Tîm Cwynion TPR
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Telecom House
125-135 Preston Road
Brighton
BN1 6AF

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n codi cwyn

Gwyddom fod eich cwyn yn bwysig i chi ac mae'n bwysig i ni hefyd. Mae ein siarter cwsmeriaid yn egluro‘r ymrwymiadau a wnawn i chi pan fyddwch yn cysylltu â ni. Mae hefyd yn esbonio'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi.

Rydym yn defnyddio proses gwyno ffurfiol dau gam.

Cam 1

Byddwn yn anelu at gydnabod eich cwyn o fewn saith diwrnod gwaith i'w dderbyn. Yna byddwn yn adolygu'r holl wybodaeth sydd gennym am eich cwyn.

Byddwn yn ystyried a yw:

  • y staff wedi cymryd y camau cywir
  • y staff wedi bod yn gwrtais ac yn deg
  • unrhyw oedi afresymol neu gadw gwybodaeth yn ôl wedi digwydd

Byddwn yn ysgrifennu i ddweud wrthych am ein canfyddiadau o fewn 30 diwrnod gwaith. Os yw'n cymryd mwy o amser na hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein cynnydd, y rhesymau dros unrhyw oedi a phryd y byddwn yn ymateb yn llawn.

Yn ein hymateb byddwn yn:

  • egluro unrhyw beth a aeth o'i le
  • nodi unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd neu a gymerir i gywiro pethau
  • nodi a yw'ch cwyn yn cael ei gynnal neu beidio

Os na chaiff eich cwyn ei chynnal, byddwn yn egluro pam yn ein hymateb.

Cam 2

Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, efallai y byddwch yn gallu gofyn am gam 2 y broses. Bydd ein hymateb cam 1 yn dweud wrthych os yw hyn yn wir.

Yng ngham 2 gallwch ofyn i ni adolygu'r ffordd y gwnaethom ymdrin â'ch cwyn. Wrth geisio adolygiad, bydd angen i chi nodi'n ysgrifenedig y materion hynny nad ydych yn fodlon â nhw o hyd. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn cam 2 o fewn pum diwrnod gwaith. Byddwn yn ceisio ymateb i chi o fewn 30 diwrnod gwaith.

Terfynau amser

Mae'r terfynau amser canlynol yn berthnasol i wneud cwyn ffurfiol.

  • Cwyn Cam 1: unrhyw bryd. Ond os yw'r gŵyn yn ymwneud â digwyddiad penodol, dylech ei wneud cyn gynted ag y gallwch ar ôl y digwyddiad.
  • Cwyn Cam 2: o fewn 28 diwrnod gwaith i ddyddiad yr ateb cam 1 gennym ni.

Rydym yn deall bod pob achos yn wahanol felly gallwn ymestyn y terfynau amser hyn.

Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus

Gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd ymchwilio i gŵynion yn ein herbyn ni. Fel arfer, dim ond ar ôl i'n gweithdrefn gwyno ddod i ben y mae'r Ombwdsmon yn derbyn achos.

Dylech ysgrifennu at eich AS. Byddant yn cyfeirio'ch cwyn at yr Ombwdsmon.

Dioddefwyr troseddau

Os ydym wedi ymgymryd ag ymchwiliad troseddol ac nad ydych yn credu bod eich hawliau o dan y Cod Dioddefwyr yn cael eu bodloni gennym ni, gallwch wneud cwyn. Gweler ein tudalen ar ddioddefwyr troseddau (Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth.

Diogelu data

Mae ein hysbysiad preifatrwydd (Saesneg yn unig) yn rhoi rhagor o fanylion am sut rydym yn gofalu am ddata personol.

Cynnwys cysylltiedig

Sut i gysylltu â ni gydag ymholiad neu i roi gwybod am bryder

Is this page useful?

Thanks for your feedback.