Rydym am i'n gwasanaethau ar-lein fod yn gynhwysol fel bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu eu defnyddio. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau trwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau trwy ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'n gwasanaethau trwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd yn gweithio i wneud y testun ar ein gwasanaethau mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r parthau dilynol:
- thepensionsregulator.gov.uk
- exchange.thepensionsregulator.gov.uk
- trusteetoolkit.thepensionsregulator.gov.uk
- education.thepensionsregulator.gov.uk
- autoenrol.tpr.gov.uk
- review.tpr.gov.uk
- help.thepensionsregulator.gov.uk
- automation.thepensionsregulator.gov.uk
- blog.thepensionsregulator.gov.uk
Pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau ar-lein
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'n gwasanaethau ar-lein yn gwbl hygyrch. Dyma'r prif faterion a allai gael effaith ar rai defnyddwyr:
- nid oes gan rai delweddau destun amgen da
- nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
- nid yw rhai labeli ffurflenni wedi'u cysylltu'n iawn â'u helfennau mewnbwn
- nid yw rhai meysydd ffurf lenni gorfodol wedi'u nodi'n glir
- nid oes modd gweithredu rhai cydrannau ar fysellfwrdd
- nid yw rhai dolenni yn cael eu gwahaniaethu'n ddigon clir oddi wrth destun arall
- nid oes gan rai dolenni destun ystyrlon
- mae gan rai tudalennau ffenestri moddol sy'n bosibl eu tabio allan ohonynt heb fwriadu
- nid yw rhai dogfennau PDF yn hygyrch
- mae rhai delweddau SVG yn derbyn ffocws ddwywaith yn Microsoft Internet Explorer 11
- mae gan rai rheolyddion rôl a chyflwr nad yw'n cael ei gyfleu
Beth i'w wneud os na allwch gyrchu rhannau o'n gwasanaethau ar-lein
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar ein gwasanaethau ar-lein mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.
Byddwn yn cydnabod eich cais o fewn pum diwrnod gwaith ac yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Riportio problemau hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau ar-lein. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
ae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am ein gwasanaethau ar-lein a hygyrchedd
Mae TPR wedi ymrwymo i wneud ei wasanaethau ar-lein yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae ein gwasanaethau ar-lein yn cydymffurfio'n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau dilynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Problem a nodwyd | Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 AA | Pryd rydym yn bwriadu ei drwsio |
---|---|---|
Mae gan rai delweddau werthoedd amhriodol ar gyfer eu priodoleddau ‘alt’ na fydd yn ystyrlon i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Mae gan rai delweddau werthoedd amhriodol ar gyfer eu priodoleddau ‘alt’ na fydd yn ystyrlon i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Nid yw'r penawdau'n cael eu nythu'n gywir. Mae'r testun wedi'i lunio i edrych fel penawdau. Mae adrannau'r brif dudalen yn methu dirnodau. Eitemau rhestr wedi'u marcio fel rhestrau ar wahân. Rhaid i fotymau tabl y gellir eu didoli gyfleu sut mae data'n cael ei ddidoli. Sicrhau bod priodoleddau cwmpasu’n cael eu gweithredu'n gyson. Nid yw labeli wedi'u cysylltu'n gywir ag elfennau mewnbwn. Defnyddir priodoleddau gofynnol ac annilys i gyfleu gwybodaeth. Rhaid tagio dogfennau PDF. |
1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Pan fydd y drefn y cyflwynir cynnwys ynddi yn effeithio ar ei ystyr, gellir pennu trefn ddarllen gywir yn rhaglennol. |
1.3.2 trefn ystyrlon |
Erbyn mis Medi 2021 |
Heb ddefnyddio nod y bibell i wahanu dolenni llywio. | 1.3.3 nodweddion synhwyraidd | Erbyn mis Medi 2021 |
Ni ellir pennu pwrpas elfennau mewnbwn sy'n casglu gwybodaeth bersonol yn rhaglennol. |
1.3.5 nodi pwrpas y mewnbwn |
Erbyn mis Medi 2021 |
Dim ond yn ôl lliw y mae gwybodaeth yn cael ei chyfleu. |
1.4.1 (cyferbyniad nad yw’n destun) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Nid yw rhai cydrannau'n cyflenwi digon o gyferbyniad lliw. |
1.4.3 (cyferbyniad lliw) | Erbyn mis Medi 2021 |
Nid oes gan dudalennau ddyluniad ymatebol. |
1.4.10 (Gellir cyflwyno cynnwys heb golli gwybodaeth nac ymarferoldeb, a heb fod angen sgrolio mewn dau ddimensiwn ar gyfer:
|
Erbyn mis Medi 2021 |
Ni ellir cael gwared ar ffenestri naid cymorth trwy ddefnyddio’r fysell Esc. | 1.4.13 (cynnwys ar hofran neu ffocysu) | Erbyn mis Medi 2021 |
Nid yw'r offer llywio ar y dudalen yn weithredol ar y bysellfwrdd. Nid oes modd gweithredu bysellfwrdd ar y ddewislen llywio cynllun symudol. Dim ond ar hofran y mae cynnwys rholio drosodd yn cael ei arddangos. |
2.1.1 (llywio bysellfwrdd) | Erbyn mis Medi 2021 |
Rhaid i elfennau teitl tudalen ddisgrifio cynnwys y dudalen. |
2.4.2 (teitlau tudalennau) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Dylid dal ffocws bysellfwrdd yn y ffenestr foddol. |
2.4.3 (trefn ffocysu) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Dylai fod gan dudalennau briodoledd ‘lang’ | 3.1.1 (iaith y dudalen) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Gall diffyg cydymffurfio HTML gael effaith ar hygyrchedd y dudalen. |
4.1.1 (dosrannu) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Nid yw rôl a chyflwr rhai rheolyddion yn cael eu cyfleu'n gywir i rai technolegau cynorthwyol. |
4.1.2 enw, rôl, gwerth |
Erbyn mis Medi 2021 |
Rhaid cyfleu negeseuon gwall yn awtomatig i ddefnyddwyr meddalwedd darllenwyr sgrin. |
4.1.3 (negeseuon statws) |
Erbyn mis Medi 2021 |
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn diwallu safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel maent yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn diwallu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, rôl gwerth).
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio dogfennau ymchwil hŷn.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn diwallu safonau hygyrchedd.
Sut wnaethom brofi'r wefan hon
FProfwyd ein gwasanaethau ar-lein ddiwethaf rhwng 3 Gorffennaf a 22 Medi 2020. Cynhaliwyd y profion gan gwmni o'r enw net-progress.
Fe wnaethom archwilio 44 tudalen HTML a thair dogfen PDF. Fe wnaethom ddewis y sampl hon o dudalennau i gynnwys cymaint â phosibl o wahanol fathau o gynnwys a chynulleidfaoedd.
Fe wnaethom brofi'r gwasanaethau a chynnwys dilynol:
Datganiad o gydymffurfiad
- Tudalen lanio’r datganiad cydymffurfiaeth
- Nodi’ch manylion i greu eich cyfrif
- Dangosfwrdd y cyflogwyr
- Ychwanegu cyflogwr arall
- Diweddaru fy manylion
- Rhestr wirio’r datganiad cydymffurfiaeth (PDF)
Cyfnewid
- Tudalen lanio
- Cofrestru
- Dewis rôl
- Dangosfwrdd cyfnewid
- Dewis math y digwyddiad
- Manylion y cynllun
- Argraffu ffurflen – dewis math y digwyddiad
- Adroddiad Digwyddiad Hysbysadwy - Penderfyniad i ildio rheolaeth cyflogwr (PDF)
Adolygu ffurflen hysbysiad cosb
- Adolygu ffurflen hysbysiad
- Cyflwyno cais am adolygiad
Rheoli gwybodaeth
- Tudalen lanio
- Cwestiynau ac atebion cofrestru awtomatig
Offer y cyflogwr
- Dywedwch wrthym nad ydych yn gyflogwr rhan 1
- Dywedwch wrthym nad ydych yn gyflogwr rhan 2
- Diolch am ddarparu'ch manylion
- Enwebu cyswllt
- Cadarnhau â phwy i gysylltu
- Canfyddwch eich cod llythrennau
- Canfyddwch eich dyddiadau ar gyfer ailgofrestru
- Ffurflen gyswllt cofrestru awtomatig
Pecyn cymorth yr Ymddiriedolwr
- Tudalen lanio
- Cofrestru
- Mewngofnodi
- Canfyddwch ragor
- Eich dangosfwrdd dysgu
- Cyflwyno cynlluniau pensiwn - y sgriniau dilynol:
- Tudalen gychwyn cwrs e-ddysgu
- Croeso i 'Cyflwyno cynlluniau pensiwn'
- Senario 1 - Cyflwyniad
- Sleid 2: cinio gydag Adam
- Pwynt penderfynu: Pa fath o gynllun?
- Aelodau a'u buddion
- Gwiriwch eich cynllun (PDF)
- Senario 2 - Pwynt penderfynu: Ymddiriedolwyr
- Tiwtorial un: Beth yw cynllun pensiwn? Mathau o gynllun yn seiliedig ar ymddiriedolaeth: DB
- Tiwtorial un: Trosolwg o gynllun yn seiliedig ar ymddiriedolaeth
- Tiwtorial dau: Buddiolwyr
- Tiwtorial tri: Pwy all fod yn ymddiriedolwr?
- Rhowch gynnig ar asesiad - Cwestiwn 1
- Rhowch gynnig ar asesiad - Crynodeb o'r ymgais
- Cyflwyno cynlluniau pensiwn - Adolygiad o Asesiad
- Adolygiad o asesiadau - Adolygiad o asesiadau blaenorol
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn datblygu map ffordd hygyrchedd i ddangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar ein gwasanaethau ar-lein.
Rydym yn profi'r holl gydrannau, templedi ac ymarferoldeb newydd fel mater o drefn i sicrhau eu bod yn hygyrch cyn i ni eu defnyddio ar y wefan.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwasanaeth monitro perfformiad awtomataidd i'n rhybuddio am unrhyw faterion sylweddol ynghylch hygyrchedd.
Bydd ein gwasanaethau ar-lein yn parhau i gael eu harchwilio'n rheolaidd gan arbenigwr hygyrchedd annibynnol.