Rydw i’n gyflogwr ac mae rhaid i mi gynnig pensiwn
Ar sail yr wybodaeth y bu ichi ei gyflwyno, rydych chi, neu fyddwch chi, yn gyflogwr gyda staff y mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn. Mae eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn dechrau unwaith y byddwch chi'n cyflogi'ch aelod cyntaf o staff (dyddiad dechrau dyletswyddau).
Cofiwch, mae hi'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gofrestru. Gall peidio â gwneud hynny olygu dirwy.
Llinell amser dyletswyddau
Defnyddiwch ein llinell amser dyletswyddau newydd i'ch helpu chi weithio allan beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd. Rhowch ddyddiad dechrau eich dyletswyddau.
Sicrhewch fod dyddiad dechrau eich dyletswyddau yn gywir gan fydd eich llinell amser dyletswyddau wedi'u teilwra yn dibynnu ar hyn (os ydych chi'n ansicr o'r dyddiad, cyfeiriwch at eich llythyr oddi wrth y Rheolydd Pensiynau sy'n egluro'ch dyletswyddau cyfreithiol a therfynau amser)
Ydych chi wedi cwblhau popeth?
Cofrestrwch er mwyn derbyn e-byst i'ch helpu a'ch cynghori er mwyn cwblhau eich dyletswyddau mewn pryd. Rhowch wybod inni pwy yr hoffech chi ei enwebu i dderbyn y rhybuddion hyn.
Enwebu cyswlltDolenni defnyddiol
Ydych chi'n hwyr yn sefydlu'ch cynllun pensiwn?
Os nad ydych chi wedi sefydlu’ch cynllun pensiwn ymhen chwe wythnos o ddyddiad dechrau eich dyletswyddau, mae’n rhaid ichi ôl ddyddio unrhyw gyfraniadau y bu ichi eu methu. Darganfod beth sydd yn rhaid ichi ei wneud os ydych chi’n hwyr yn sefydlu’ch cynllun pensiwn.
Osgoi gwallau cyffredin mewn dyletswyddau pensiwn
Canfyddwch sut gallwch chi osgoi gwneud nifer o wallau cyffredin mewn dyletswyddau pensiwn. Mae gwallau allweddol yn cynnwys defnyddio trothwyon enillion anghywir a chamgyfrifo cyfraniadau ar gyfer staff sy’n derbyn tâl mamolaeth.