Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Osgoi gwallau cyffredin yn nyletswyddau pensiwn yn y gweithle

Mae ein hymchwiliadau wedi canfod bod rhai cyflogwyr yn gwneud camgymeriadau cyffredin drwy hepgor camau pwysig o ran cyfrifo cyfraniadau pensiynau a chyfathrebu i staff.

Mae'r gwallau allweddol yn cynnwys:

  • defnyddio trothwyon enillion anghywir
  • gwallau mewn cyfathrebu i staff am gofrestru awtomatig
  • camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth

Ar y dudalen hon

  • Defnyddio trothwyon enillion anghywir
  • Camgymeriadau mewn cyfathrebu i staff
  • Camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth
  • Sut i osgoi gwallau cyffredin

Defnyddio trothwyon enillion anghywir

Bob blwyddyn, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adolygu'r trothwyon enillion ar gyfer cofrestru'n awtomatig. Rydym yn diweddaru trothwyon enillion ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol gyda'r trothwyon newydd wedi i'r Adran Gwaith a Phensiynau eu cyhoeddi.

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn defnyddio'r trothwyon enillion cywir gan y gallai camgymeriadau yma roi eich staff mewn perygl o beidio â derbyn y cyfraniadau pensiynau sy'n ddyledus iddynt.

Camgymeriadau mewn cyfathrebu i staff

Byddwch yn ymwybodol hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru staff cymwys yn llwyddiannus yn eich cynllun pensiwn a gwneud cyfraniadau rheolaidd, gallai gwallau yn eich cyfathrebiadau i staff eich rhoi mewn perygl o beidio â chydymffurfio.

O fewn 6 wythnos ar ôl i ddyddiad dechrau eich dyletswyddau, eich dyletswydd gyfreithiol chi yw ysgrifennu at eich holl staff yn unigol i egluro sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddynt.

Dylech sicrhau eich bod yn gwirio'n gwybodaeth ar ysgrifennu at eich staff. Defnyddiwch ein templedi llythyr i'ch helpu i gyfathrebu i'ch staff.

Camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth

Os yw'n berthnasol, dylech wirio'n rheolaidd canllawiau'r Llywodraeth ar dâl mamolaeth oherwydd gall gamgyfrifo hyn effeithio ar gyfraniadau pensiynau.

Sut i osgoi gwallau cyffredin

Sicrhewch eich bod yn osgoi gwneud y gwallau cyffredin hyn gan y gallent eich rhoi mewn perygl o beidio â chydymffurfio a gallent fod yn gostus.  Er enghraifft, bydd angen i chi ôl-ddyddio'r holl daliadau ar gyfer eich staff sydd wedi bod yn derbyn cyfraniadau anghywir ac mewn rhai achosion gall y camgymeriadau hyn arwain at gosbau ariannol.

Dylech chi:

  • wirio'ch dyletswyddau parhaus i osgoi hepgor camau pwysig
  • wrth gwblhau ail-gofrestru, y mae'n rhaid i chi ei wneud bob tair blynedd, dylech wirio bod eich systemau a'ch prosesau yn gyfredol ac yn rhedeg yn llyfn.

Cofiwch, ail-gofrestru ac ail-ddatgan yw eich dyletswyddau cyfreithiol ac os nad ydych yn gweithredu fe allech gael dirwy.

Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o gyflogwyr eisiau gwneud y peth iawn i'w staff.  Ceisiwch osgoi dirwyon anfwriadol a/neu hysbysiadau cosb drwy ddilyn y canllawiau perthnasol ar ddyletswyddau pensiwn yn y gweithle i gyflogwyr.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.