Os ydych chi wedi derbyn hysbysiad o gyfraniadau heb eu talu gan ein cyfeiriad yn Wymondham, mae rhaid i chi gwblhau'r tri cham isod.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Dilynwch y tri cham erbyn eich dyddiad cau, neu efallai byddwch yn derbyn hysbysiad rhybudd. Os ydych chi wedi datrys y mater gyda'ch darparwr pensiynau, mae rhaid i chi o hyd anfon tystiolaeth at y Rheoleiddiwr Pensiynau er mwyn atal gweithredu gorfodi.
Cam 1: Cyfrifwch y cyfanswm o gyfraniadau heb eu talu
Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, mae rhaid i chi gyfrif a thalu'r swm cywir sy'n ddyledus mewn cyfraniadau heb eu talu ar gyfer pob unigolyn yn eich cynllun.
Pwyntiau allweddol:
- Efallai bod darparwr eich cynllun wedi cysylltu â chi am y cyfraniadau heb eu talu hyn, ond bod y swm cywir yn wahanol i'r swm a adroddwyd.
- Os ydych chi wedi methu taliadau pellach, mae rhaid i'r swm rydych chi'n ei dalu gynnwys yr holl gyfraniadau sy'n ddyledus.
- Gwiriwch fod eich darparwr pensiynau yn ymwybodol o'r diweddaraf ynglŷn ag unrhyw berson sydd wedi ymuno â neu adael eich cynllun.
Bydd y swm rydych chi'n ei dalu yn benodol i'ch cynllun chi. Cysylltwch â'ch darparwr pensiynau am wybodaeth bellach neu os angen i chi herio'r swm sy'n ddyledus.
Cam 2: Cysylltwch â'ch darparwr pensiynau er mwyn talu'r cyfanswm o gyfraniadau heb eu talu i reolwr neu ymddiriedolwr y cynllun pensiwn
Cynhwyswch bob taliad sy'n ddyledus, neu fe allwn ni gyhoeddi Hysbysiad Cyfraniadau sydd heb eu Talu pellach o dan adran 37 Deddf Pensiynau 2008.
Dylech chi gysylltu â'ch darparwr cynllun yn uniongyrchol er mwyn datrys unrhyw broblemau os ydych chi'n herio unrhyw gyfraniadau heb eu talu.
Cam 3: Anfonwch dystiolaeth yn dangos y taliad(au) at y Rheoleiddiwr Pensiynau
Mae rhaid i chi dalu'r cyfraniadau cyn i chi anfon tystiolaeth; ni allwn ni dderbyn dogfennau sy'n dangos taliadau wedi eu trefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.
Mae tystiolaeth dderbyniol yn cynnwys cipluniau o borth gwefan y darparwr pensiynau sy'n dangos yr isod yn glir:
1. Cyfeirnod Cynllun Pensiwn y Cyflogwr (EPSR) (gall hyn gael ei adnabod fel rhif polisi'r grŵp, ac ar gyfer cynlluniau Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST), dyma eich manylion adnabod NEST).
2. Bod y cyfnodau a adroddwyd amdanynt wedi eu talu, a'r
3. Union ddyddiad y talwyd y cyfnodau a adroddwyd – (DD/MM/BBBB).
Os nad ydych chi'n gallu anfon cipluniau:
- Gall cyfriflenni banc dim ond bod yn dderbyniol gyda thystiolaeth ychwanegol, er enghraifft anfonebau gan ddarparwr y cynllun.
- E-bost gan ddarparwr eich cynllun yn cadarnhau:
- nad oes unrhyw gyfraniadau'n ddyledus am y cyfnod(au) a adroddwyd yn flaenorol, a'r
- dyddiad(au) y bu i chi dalu'r cyfraniadau.
- Os na allwch chi dalu'r swm ar unwaith oherwydd anawsterau ariannol ac wedi cytuno ar gynllun talu â darparwr eich pensiwn, mae rhaid i chi anfon tystiolaeth o'r cynllun talu a gytunwyd a'r dyddiad y dechreuodd.
Anfonwch eich tystiolaeth at Y Rheoleiddiwr Pensiynau yn: CandE@autoenrol.tpr.gov.uk neu drwy'r post i: Y Rheoleiddiwr Pensiynau, BP 349 Abbey View Wymondham NR18 8JA.