Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Telir hysbysiad cosb cofrestru awtomatig

Os ydych wedi derbyn hysbysiad cosb neu anfoneb gennym ni, mae amrywiaeth o ffyrdd o dalu.


Dewisiadau talu hysbysiadau cosb

Bydd angen eich cyfeirnod hysbysiad cosb arnoch ar gyfer y ddau opsiwn talu (gallwch ddod o hyd i hyn ar flaen eich hysbysiad). Rhaid i chi dalu erbyn y dyddiad a ddangosir ar flaen eich hysbysiad cosb.

1.Taliad ar-lein

Gallwch dalu eich cosb gan ddefnyddio ein gwasanaeth talu ar-lein diogel ar yr amod nad yw eich dyled wedi bod yn destun achos llys.

Os bydd eich cyfeirnod hysbysiad yn dechrau gydag AE neu C, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau talu ar yr hysbysiad gan na fyddwch yn gallu ei dalu ar-lein.

Talu eich hysbysiad cosb

2. Trosglwyddiad banc

I dalu eich hysbysiad cosb drwy drosglwyddiad BACS, anfonwch y taliad i:

  • cod didoli: 40-14-03
  • rhif y cyfrif: 72526026

Dylech ddyfynnu rhif eich Hysbysiad Cosb fel cyfeirnod eich taliad. 

Bydd peidio â chynnwys rhif eich Hysbysiad Cosb yn golygu na fyddwn yn gallu clustnodi eich taliad o bosib, neu fod y taliad yn cael ei ddychwelyd gan ei fod yn anhysbys.

Pwysig

  • Os ydych wedi derbyn hysbysiad cosb, mae angen i chi gwblhau datganiad cydymffurfio o hyd.
  • Os ydych wedi cwblhau datganiad o gydymffurfiad ar adeg cael cosb, mae angen i chi sicrhau eich bod wedi talu'r ddirwy neu wedi trefnu cynllun talu gyda ni.
  • Os na fyddwch yn talu'r gosb, byddwn yn adennill unrhyw ddirwyon sydd heb eu talu drwy achosion cyfreithiol. Gall hyn gynnwys cael dyfarniad llys sirol a chyfarwyddo beilïaid.

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich cosb

Os ydych chi mewn trafferthion ariannol, mae'n bosib y bydd modd i ni drafod a chytuno ar gynllun talu i chi dalu eich cosb yn raddol. Cysylltwch â ni yn DebtRecovery@tpr.gov.uk neu 0800 169 0325 i drafod eich opsiynau â'n Tîm Adennill Dyledion.


Os ydych chi'n cael trafferth gyda dyledion, cysylltwch ag un o'r gwasanaethau cyngor di-dâl sydd ar gael ledled y DU.

Mae rôl ac awdurdodaeth y tribiwnlys a’r Llys Sirol yn wahanol iawn, ac mae’n bwysig fod unrhyw her a godir yn erbyn hysbysiad cosb yn cael ei gwneud yn y llys neu dribiwnlys cywir. Canfod mwy o wybodaeth am rôl ac awdurdodaeth y tribiwnlys a’r Llys Sirol yng Nghymru a Lloegr.

Y cynnydd presennol mewn costau byw

Gall y cynnydd presennol mewn costau byw effeithio ar eich staff ac efallai fod y rhai sy'n pryderu'n mynd atoch chi am help gan y gallent deimlo nad ydynt yn gallu fforddio talu i'w cynllun pensiwn mwyach. Gall eraill fod yn ceisio cael arian parod o'u pot pensiwn i dalu biliau hanfodol. Mae hyn yn ddealladwy ond mae'r ddwy senario yn cyflwyno risg.

Mae'n bwysig bod pobl yn cynnal eu cyfraniadau pensiwn, pryd bynnag y gallant, gan y gallai atal cyfraniadau gael effaith ddifrifol ar eu safonau byw ar ôl ymddeol yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Sut allwch chi helpu?  

Gallwch helpu drwy annog eich staff i ofyn am help cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Dylech gyfeirio unrhyw un o'ch staff sy'n poeni am arian at y gwasanaeth diduedd HelpwrArian a gefnogir gan y llywodraeth a all eu helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Dylai unrhyw staff sy'n ceisio trosglwyddo arian o'u pensiwn hefyd gael eu cyfeirio at wefan ScamSmart. Bydd hyn yn eu helpu i ddod i adnabod arwyddion rhybudd sgam a gwirio'r cwmni y maent yn delio ag ef.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.