Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Cam 2 Darganfod pwy y mae angen i chi ei roi ar gynllun pensiwn

Mae'n rhaid ichi wneud hyn ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau, mae angen ichi gyfrifo faint mae pob aelod o staff yn ei ennill a faint oed ydyn nhw. Yna cewch ganfod yr hyn sydd yn rhaid ichi ei wneud ac fe gaiff ei alw'n 'asesu eich staff'. Fe ddylech chi ddefnyddio'r wybodaeth i gwblhau eich datganiad cydymffurfio.


Ar y dudalen hon

  • Asesu’r gweithwyr
  • Pethau eraill y dylech eu hystyried
  • Rhoi gweithwyr ar gynllun pensiwn
  • Beth nesaf?

Asesu’r gweithwyr

Fe fydd y gweithwyr mewn un o ddau gategori:

Cyfanswm Cyflog Oedran 16 - 21 22 – Oedran Pensiwn y Wlad* Oedran Pensiwn y Wlad* - 74
Dros £833 y mis
(Dros £192 y wythnos)
Math 2 Math 1  Math 2
£833 y mis neu lai
(£192 yr wythnos neu lai)
Math 2  Math 2 Math 2

*Os nad ydych yn siwr beth ydy hwn, defnyddiwch y Gyfrifiannell Pensiwn y Wlad.

Math 1: Gweithwyr y mae rhaid eu rhoi ar gynllun pensiwn. Mae rhaid i chi gyfrannu ato

Mae rhaid i chi roi unrhyw weithiwr sydd…

  • o 22 oed hyd at oedran pensiwn y wlad
  • ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos.

...ar gynllun pensiwn ac mae rhaid i’r ddau ohonoch gyfrannu ato.

Mae gennym wybodaeth ychwanegol i’ch helpu deall eich costiau. Gallwch hefyd gysylltu â’r darparwr pensiynau am rwy o wybodaeth.

Math 2: Gweithwyr nad oes rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiw

Os ydy unrhyw un o’ch gweithwyr y tu allan i’r ystod oedran uchod ac yn ennill llai o gyflog nad y nodir uchod, does dim rhaid eu rhoi ar gynllun pensiwn oni bai eu bod nhw’n gofyn am hynny.

Os ydych wedi darganfod nad oes angen i chi roi eich gweithwyr ar gynllun pensiwn, fe fydd arnoch dasgau i’w gwneud er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol serch hynny. Bydd rhaid i chi ysgrifennu at eich gweithwyr er mwyn dweud sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.

Beth sy'n digwydd os nad ydy fy staff yn rhan o gynllun TWE?

Os ydy eich aelod o staff yn ennill £120 yr wythnos (£520 y mis) neu lai, mae'n bosib na fydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn ichi sefydlu cynllun TWE. Fodd bynnag, mi fydd dal gennych chi rai dyletswyddau cofrestru awtomatig:

Mae'n rhaid ichi ysgrifennu at eich staff i roi gwybod iddyn nhw sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw

Os ydy eich staff wedyn yn ysgrifennu atoch yn gofyn ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn, mae'n rhaid ichi drefnu hyn iddyn nhw, ond does dim rhaid ichi gyfrannu tuag ato

Pan fyddwch yn dechrau talu mwy na £120 yr wythnos i aelod o staff, mae'n rhaid ichi sefydlu cynllun TWE gyda Chyllid a Thollau EM. Mi fydd angen ichi hefyd asesu eich aelod o staff er mwyn darganfod a oes angen iddyn nhw gofrestru ar gynllun pensiwn y byddwch chi'n cyfrannu tuag ato hefyd. Unwaith ichi sefydlu'ch cynllun TWE, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn ichi gwblhau datganiad cydymffurfio, lle byddwch yn rhoi gwybod inni sut y bu ichi gyflawni eich dyletswyddau, erbyn dyddiad penodol.

Pethau eraill y dylech eu hystyried

Cyflogi gweithwyr sy’n gweithio oriau, cytundebau ac yn derbyn tâl amrywiol.

Os ydych chi'n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro neu staff lle mae eu horiau a'u tâl yn amrywio pob tro fyddwch chi'n eu talu, bydd dal angen ichi eu hasesu i benderfynu oes angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn ai pheidio

Am fwy o wybodaeth i'ch helpu pan fyddwch yn asesu:

Gohirio

Mae modd i chi ohirio asesu ar gyfer rhai neu bob un o’ch gweithwyr am hyd at dri mis. ‘Gohirio’ ydy hyn.

Dydy gohirio ddim yn newid eich dyddiad dechrau dyletswyddau , dim ond y dyddiad yr ydych yn asesu oedran ac enillion eich staff.

Os ydych yn dewis yr opsiwn gohirio, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at eich gweithwyr yn egluro wrthyn nhw yr hyn rydych yn wneud.

A ydy gohirio’n addas ar eich cyfer?

Rhoi gweithwyr ar gynllun pensiwn

Beth mae angen i chi wneud?

Ar ôl deall yr hyn y mae rhaid i chi wneud ar gyfer pob un rydych yn ei gyflogi, fe fydd hi’n amser rhoi’r gweithwyr perthnasol ar gynllun pensiwn.

Fe fydd angen i chi roi’r holl wybodaeth angenrheidiol i’ch darparwr pensiwn er mwyn iddo allu creu cynllun pensiwn ar gyfer eich gweithwyr.

Gwneud cyfraniadau

Bob tro rydych yn talu eich gweithwyr fe fydd angen i chi wneud cyfraniadau at eu cynllun pensiwn. Dysgu mwy am gyfrannu at eich cynllun pensiwn.

Mae rhaid i chi gyfrifo faint y mae angen i chi ac iddyn nhw dalu I'r cynllun pensiwn a threfnu bod hyn yn digwydd. Mae modd i feddalwedd eich cyflogres helpu gyda hyn. Am fanylion llawn, cysylltwch â darparwr eich cynllun pensiwn.

Rhestr pethau i’w gwneud:

  • Darganfod beth mae angen i chi wneud ar gyfer pob gweithiwr
  • Anfon manylion y gweithwyr fydd ar gynllun pensiwn at ddarparwr y cynllun pensiwn yn fuan
  • Dechrau talu’r cyfraniadau i’r cynllun pensiwn

Beth nesaf?

Ar ôl i chi roi eich gweithwyr ar gynllun pensiwn, mae angen i chi ysgrifennu atyn nhw i roi gwybod.

Llinell amser dyletswyddau newydd

Defnyddiwch ein llinell amser dyletswyddau newydd i'ch helpu chi weithio allan beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd. Rhowch ddyddiad dechrau eich dyletswyddau.

Gweld eich dyletswyddau

Pa fath?

Ewch ati'n ddi-drafferth i benderfynu pa 'gategori' y mae'r aelod o staff yn perthyn iddo

Y cwbl y bydd arnoch angen ei wybod ydy rhyw, oedran a faint mae pob gweithiwr yn ennill.

Which Type 1

Caiff yr aelod o staff ei ddynodi fel Math 1.

Which Type 2

Caiff yr aelod o staff ei ddynodi fel Math 2.

Which Type 3
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.