Skip to main content
Menu

Gohirio

Mae'r dudalen hon wedi'i hanelu at gyflogwyr sydd ar fin cyflogi staff dros dro neu dymhorol, sydd â staff ar gyfnod prawf neu sydd angen mwy o amser arnynt i sefydlu cynllun pensiwn.

Ar y dudalen hon

Y rhesymau posib dros ohirio

Mae gohirio yn opsiwn hyblyg ac efallai y byddwch yn penderfynu gohirio os:

  • mae gennych staff tymhorol neu dros dro yr ydych yn gwybod y byddant yn rhoi'r gorau i weithio i chi o fewn tri mis
  • mae gennych staff sy'n dechrau gweithio ar gyfnod prawf
  • mae angen mwy o amser arnoch i sefydlu eich cynllun pensiwn neu brosesau busnes eraill

Nid yw gohirio yn newid dyddiad dechrau eich dyletswyddau.

Gall defnyddio gohirio wneud asesiad eich staff yn haws. Mae hyn oherwydd bod angen i chi weithio allan pwy i'w roi mewn cynllun pensiwn dim ond os yw staff yn dal i weithio i chi ar ddiwedd eich cyfnod gohirio dewisol.

Pryd allwch chi ohirio

Fe allwch chi ond ohirio'r broses ymrestru awtomatig o'r canlynol:

  • eich dyddiad dechrau dyletswyddau
  • Diwrnod cyntaf gwaith aelod o staff
  • y dyddiad lle mae'r aelod o staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion am y tro cyntaf er mwyn bod yn rhan o gynllun pensiwn rydych chi'n cyfrannu tuag ato hefyd.

Cofiwch, os ydych yn penderfynu gohirio ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau, mae ond yn newid y dyddiad y mae'n rhaid ichi asesu eich staff, ni fydd yn newid eich dyddiad dechrau dyletswyddau nac eich dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno datganiad cydymffurfio.

Sut i ohirio

Mae'n rhaid ichi ysgrifennu at bob aelod o staff yn unigol er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw eich bod yn bwriadu oedi cyn pennu i'w hymrestru ar y cynllun a sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw. Bydd gennych chi hyd at chwe wythnos, o'r dyddiad rydych yn bwriadu gohirio, i ysgrifennu atyn nhw. Does dim angen ichi roi gwybod inni eich bod yn bwriadu gohirio.

Fe allwch chi ohirio am hyd at dri mis. Mae hawl gennych chi ohirio cymaint neu gyn lleied o staff yr hoffech chi ac nid oes yn rhaid i'r cyfnod gohirio fod yr un hyd ar gyfer pawb.

Os bydd unrhyw aelodau o’ch staff yn ysgrifennu atoch chi yn gofyn am gael ymuno â chynllun pensiwn yn ystod y cyfnod gohirio, bydd rhaid i chi eu cynnwys mewn cynllun ar ôl cael cais ganddynt.

Bydd rhaid iddyn nhw dalu i mewn i'r cynllun pensiwn os ydyn nhw:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • ac yn ennill o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.

I gael gwybod faint bydd rhaid i chi ei dalu, gofynnwch i ddarparwr eich cynllun pensiwn.

1. Dewiswch pwy rydych chi am ei ohirio

Gallwch ei ddefnyddio ar gyfer un aelod o staff, grŵp neu eich holl staff.

2. Dewiswch am ba mor hir i ohirio'r staff hyn

Mae gohirio yn rhoi'r hyblygrwydd i chi benderfynu am ba mor hir yr hoffech ohirio'r asesiad ac nid oes rhaid iddo fod yr un hyd i bawb. Gall fod yn ddiwrnod, wythnos neu fis, cyn belled nad yw'n mynd dros yr uchafswm o dri mis.

3. Ysgrifennwch at eich staff

Rhaid i chi ysgrifennu at bob aelod o staff yn unigol i ddweud wrthynt eich bod wedi oedi wrth weithio allan pwy i'w roi mewn cynllun a sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddynt. Bydd gennych chwe wythnos i ysgrifennu atyn nhw o'r dyddiad ar ôl i'r gohirio ddechrau. Gallwch ddiwygio ein templed llythyr gohirio i'ch helpu gyda hyn.

Nid oes angen dweud wrthym eich bod wedi penderfynu defnyddio gohirio.

4. Asesu'ch staff

Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, aseswch eich staff i weithio allan a ydynt yn bodloni'r trothwy oedran ac enillion ar gyfer cofrestru'n awtomatig.

Templed Llythyr Gohirio

Defnyddiwch ein templed llythyr gohirio i'ch helpu i ysgrifennu at staff fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Fe allwch chi addasu'r llythyr i fodloni'ch anghenion personol chi.

Templed Llythyr Gohirio mewn ieithoedd eraill

Fe allwch chi weld cyfieithiadau o'n templed llythyr gohirio - gan gynnwys fersiynau Bwlgariad, Pwylaidd a Rwmanaidd - o dan templedi llythyrau ymrestru.

Ar ddiwedd y cyfnod gohirio

Ar ddiwrnod olaf o'r cyfnod gohirio, mae angen ichi asesu'r staff er mwyn gweld ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i'w hymrestru ar gynllun pensiwn. Os ydyn nhw, mae'n rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn syth bin a chyfrannu tuag ato. Ni fydd modd ichi geisio am gyfnod gohirio pellach ar gyfer y staff hyn, hyd yn oed os wnaethoch chi ohirio am lai na'r cyfnod o dri mis yr oedd hawl gennych chi ohirio amdano. Fodd bynnag, os nad ydy aelod o staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i ymrestru ar gynllun pensiwn, fe allwch chi ohirio eto.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.