Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro

Os ydych chi'n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, bydd angen ichi eu hasesu'n unigol bob tro fyddwch chi'n eu talu nhw. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio ichi am gwpl o ddiwrnodau, cwpl o wythnosau neu sawl mis.

Mae'n debyg y bydd asesu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn fwy o ymdrech ac yn cymryd mwy o amser, oherwydd bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth y canlynol:

  • Mae'n bosib y byddan nhw ond yn gweithio ichi am gyfnodau byr
  • Mae'n bosib y byddan nhw'n cychwyn a gorffen gweithio ichi ar ganol cyfnodau tâl
  • Mae'n bosib y bydd eu cyflog ac oriau yn amrywio

Ar y dudalen hon

  • Pam fod angen imi ymrestru ar gynllun pensiwn?
  • Adnoddau defnyddiol i'ch helpu wrth asesu'ch staff?

Pam fod angen imi ymrestru ar gynllun pensiwn?

Bydd angen ichi asesu'ch holl staff er mwyn gweld pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun ar sail eu hoedran a'u henillion. Os ydych yn cyflogi aelodau o'ch teulu, bydd angen ichi eu hasesu nhw hefyd.

Bydd yn rhaid ymrestru unrhyw staff, rhwng 22 ac oed pensiwn gwladol ac sy'n ennill dros £192 yr wythnos neu £833 y mis, ar gynllun pensiwn a bydd gofyn ichi gyfrannu tuag ato hefyd.

Defnyddiwch ein hadnodd staff tymhorol a staff dros dro er mwyn gweld pa ddyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol ichi a beth fydd angen ichi ei wneud.

Adnoddau defnyddiol i'ch helpu wrth asesu'ch staff?

Meddalwedd Cyflogres

Bydd meddu ar feddalwedd cyflogres briodol yn help os oes gennych chi staff tymhorol neu staff dros dro, neu staff lle mae eu henillion ac oriau yn amrywio.

Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd cyflogres sy'n cynnig nodwedd ymrestru awtomatig yn asesu staff pob tro byddan nhw'n cael eu talu, yn cyfrifo'r cyfraniadau pan fo'n briodol ac mae gan rai meddalwedd nodwedd i fedru gohirio hefyd.

Mae'n bwysig ichi ddod o hyd i'r meddalwedd cywir wnaiff ddiwallu'ch anghenion ac fe ddylech chi wirio ei fod yn cyd-fynd gyda systemau eich cynlluniau pensiwn.

Mwy o wybodaeth am y broses cyflogres.

Mae'n bosib y bydd gan gynlluniau pensiwn wasanaethau i'ch helpu chi. Cofiwch wirio beth sydd ar gael oherwydd fe all rhai cynlluniau eich helpu i benderfynu pwy ddylech chi ymrestru ar gynllun ac eich helpu i gyfrifo eich cyfraniadau.

Bydd angen ichi ysgrifennu at eich staff yn unigol yn dweud wrthyn nhw sut y bydd ymrestru awtomatig yn effeithio arnyn nhw. Mae'n bosib y bydd rhai cynlluniau pensiwn yn medru helpu gyda'r llythyrau at eich staff. Os ydych yn cyflogi staff sydd ddim yn Saesneg iaith gyntaf, cofiwch wirio bod modd ichi fanteisio ar lythyrau mewn ieithoedd eraill gan y cynllun.

Mwy o wybodaeth ar ddewis cynllun pensiwn.

Gohirio

Os ydych chi'n ymwybodol y bydd unrhyw un o'ch staff yn gweithio ichi am lai na tri mis, fe allwch chi ohirio'r broses o benderfynu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn. Y term am hyn ydy gohiriad. Bydd angen ichi ysgrifennu at eich staff yn unigol, ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad gohirio, i roi gwybod iddyn nhw am eich cynlluniau ac i roi gwybod iddyn nhw sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.

Yn ystod cyfnod gohirio unrhyw aelod o staff, ni fydd yn rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn oni bai eu bod nhw'n gofyn ichi am eu hymrestru ar un.

Mwy o wybodaeth am ohirio.

Staff tymhorol neu staff dros dro

Seasonal Workers Tool Intro

Os ydych yn cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, bydd gofyn ichi gyflawni dyletswyddau cyfreithiol. Gwybod mwy am eich dyletswyddau.

Am ba hyd fydd eich staff yn gweithio ichi?

Seasonal Workers Tool Step1

Os oes gennych chi staff sy'n gweithio ichi am lai na tri mis

Gallwch un ai ymrestru staff, sy'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion, ar gynllun pensiwn. Fel arall, gallwch ohirio'r broses o bennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn am hyd at dri mis. Y term am hyn ydy gohiriad. Bydd dal disgwyl ichi gyflawni dyletswyddau penodol.

Seasonal Workers Tool Step2

Os ydy'r staff yn dal yn gweithio ichi wedi i'r cyfnod gohirio ddod i ben, bydd angen ichi fynd ati i bennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Staff sy'n gweithio ichi am fwy na 3 mis

O'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi asesu eich staff pob tro rydych yn eu talu er mwyn pennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Seasonal Workers Tool Step3

Gallwch hefyd ystyried gohirio.

Cyfuniad o staff sy'n gweithio ichi am fwy na neu lai na 3 mis

O'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi asesu'ch staff pob tro rydych yn eu talu er mwyn pennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Seasonal Workers Tool Step4

hymrestru ar gynllun pensiwn.

Os oes gennych chi staff na fydd yn gweithio ichi am fwy na tri mis, mae'n bosib y byddwch yn penderfynu gohirio'r broses asesu i weld oes angen eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Mae'n bosib y byddwch yn penderfynu gohirio ar gyfer eich holl aelodau o staff er mwyn arbed amser ac ymdrech.

Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, bydd angen ichi asesu ac ymrestru unrhyw staff yn awtomatig sy'n dal yn gweithio ichi os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion.

Dysgu sut i ohirio.

Os nad ydych chi'n siŵr am ba hyd fydd eich staff yn gweithio ichi

O'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi asesu'ch staff pob tro rydych yn eu talu er mwyn pennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Seasonal Workers Tool Step5
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.