Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Cam 1 Dewis cynllun pensiwn

Fe ddylech chi wneud hyn cyn gynted â phosib oherwydd gall gymryd cryn dipyn o amser i'w gwblhau.

Mi fydd angen ichi ddewis cynllun pensiwn sy'n ymwneud â chofrestru awtomatig. Bydd angen ichi a'ch staff gyfrannu tuag at y cynllun er mwyn helpu eich staff i gynilo yn barod at pan fyddan nhw'n ymddeol.

Gallwch ddod o hyd i gynllun eich hun neu ofyn am help gan eich cyfrifydd neu gynghorydd ariannol.


Dod o hyd i gynllun eich hun

Fe ddylech edrych ar gynlluniau gwahanol cyn penderfynu pa un sy’n addas ar eich cyfer chi a’ch gweithwyr.

Mae'r canlynol wedi rhoi gwybod inni eu bod yn fodlon cynnig cynlluniau i gyflogwyr cwmnïau bach:

Mae angen ichi wirio nifer o bethau cyn dewis cynllun pensiwn. Bydd angen ichi wirio a fydd y cynllun yn gymwhys i'ch holl staff, cost y cynllun, a ydy'r cynllun yn defnyddio'r dull rhyddhad treth gorau i'ch cwmni chi a hefyd gwirio ydy'r cynllun yn gymwys ar gyfer eich cyflogres. Mwy o wybodaeth am sut i ddewis cynllun pensiwn.

Gofyn am help gan gynghorwr

Os oes gennych chi gyfrifwyr, efallai y gallant eich helpu chi ddod o hyd i gynllun neu gynghorwr arianol a all roi cymorth i chi.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r cyfeirlyfr cynghorwyr ymddeol y HelpwrArian, a fydd yn help ichi ddod o hyd i gynghorydd all eich helpu i ddewis cynllun pensiwn ar gyfer cofrestru awtomatig.

I wirio a ydy cynghorydd wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, chwiliwch cofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

* Mae llawer iawn o gynlluniau pensiwn eraill sydd ar gael sydd heb eu rhestru ar y wefan hon. Efallai y bydd ffyrdd eraill hefyd i gynlluniau ddangos i gyflogwyr fod eu cynlluniau yn rhedeg yn dda.

Ni allwn ni argymell na chefnogi unrhyw gynllun pensiwn na sefydliad penodol. Dydy cynnwys unrhyw gynllun neu sôn am unrhyw sefydliad ar y wefan hon ddim yn sicrhau eu bod nhw'n addas. Mae'r tudalennau gwe hyn wedi'u darparu er mwyn rhannu gwybodaeth a chyfarwyddyd yn unig.

Beth nesaf?

Rŵan eich bod wedi dewis cynllun pensiwn, fe fydd angen i chi roi eich gweithwyr arno. Fe fydd y cam nesaf yn eich helpu â hyn.

< Rydw i’n gyflogwr ac mae rhaid i mi gynnig pensiwn

Cam 2. Canfod pwy y mae rhaid i chi ei roi ar gynllun pensiwn >

Llinell amser dyletswyddau newydd

Defnyddiwch ein llinell amser dyletswyddau newydd i'ch helpu chi weithio allan beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd. Rhowch ddyddiad dechrau eich dyletswyddau.

Gweld eich dyletswyddau
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.