Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Gwirio proses eich cyflogres

Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu ei fod yn haws rheoli'r broses cofrestru awtomatig. Fe ddylech chi ofalu fod eich proses (neu feddalwedd) cyflogres yn addas ar gyfer cofrestru awtomatig. Bydd hefyd gofyn ichi gadw cofnod o wybodaeth eich staff.

Pan fyddwch yn cofrestru staff ar gynllun pensiwn, bydd angen ichi wybod y canlynol:

  • dyddiad geni
  • cyflog
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion cyswllt gweithwyr

Prosesau a meddalwedd Cyflogres

Os ydych chi'n ystyried prynu meddalwedd cyflogres, fe ddylech chi ddewis meddalwedd sy'n ymdrin gyda chofrestru awtomatig er mwyn ichi fedru ei ddefnyddio i ddarganfod pwy sydd angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn. Gall eich darparwr cyflogres gynnig gwybodaeth am hyn.

I weld rhestr o feddalwedd cyflogres am ddim a gyda thâl (gyda llawer yn cynnig nodweddion cofrestru awtomatig) ewch i www.gov.uk/payroll-software/overview

Os ydych chi'n penderfynu dewis rhywun arall i gynnal eich proses cyflogres, fe ddylech chi wirio fod y meddalwedd maen nhw'n eu defnyddio yn ymdrin â chofrestru awtomatig.

Os nad ydych yn defnyddio meddalwedd cyflogres

Pan fyddwch yn dewis cynllun pensiwn, gofynnwch pa wasanaethau maen nhw'n eu cynnig gan fod modd i rai cynlluniau gynnig cefnogaeth gyda darganfod pwy i'w cofrestru ar gynllun.
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.