Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Rydw i’n gyflogwr, does dim rhaid i mi gynnig pensiwn rŵan

Ar sail y gwybodaeth y bu ichi ei gynnig, mae dal angen ichi gwblhau'r camau isod. Mae eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn dechrau pan fyddwch yn cyflogi'ch aelod cyntaf o staff (dyddiad dechrau dyletswyddau).

Os nad oes gennych chi staff i'w cofrestru ar gynllun pensiwn ar hyn o bryd, mi fydd gennych chi ddyletswyddau eraill beth bynnag fel cwblhau eich datganiad cydymffurfio. Cofiwch, mae hi'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gofrestru. Gall peidio â gwneud hynny olygu dirwy. Mi fydd hefyd angen ichi fonitro amgylchiadau eich staff rhag ofn y bydd angen ichi gofrestru unrhyw staff ar gynllun yn y dyfodol.

Defnyddiwch ein llinell amser dyletswyddau newydd i'ch helpu chi weithio allan beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd. Rhowch ddyddiad dechrau eich dyletswyddau.

Beth mae angen i chi ei wneud ac erbyn pryd?

Dewiswch y dyddiad y dechreuodd eich aelod cyntaf o staff weithio i chi. Gelwir hyn yn ddyddiad cychwyn eich dyletswyddau.
Er enghraifft, 27 3 2007

Cwblhewch eich datganiad cydymffurfio er mwyn rhoi gwybod inni sut y bu ichi gydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cofrestru awtomatig. Cofiwch wneud hyn erbyn dyddiad cau eich datganiad neu mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Cofiwch wneud hyn ymhen 5 mis ar ôl eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Enwebu cyswllt

Beth sydd yn rhaid imi ei wneud os ydy fy amgylchiadau yn newid?

Mae'n rhaid ichi fonitro oedran eich staff a'r cyfanswm rydych yn eu talu (gan gynnwys staff newydd) er mwyn gweld a oes angen ichi gofrestru unrhyw un ohonyn nhw ar gynllun pensiwn. Darllen mwy am eich dyletswyddau parhaus.
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.