Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Eich dyletswyddau parhaus

Mae cofrestru awtomatig yn gyfrifoldeb parhaus - dydy eich dyletswyddau ddim yn gorffen ar ôl dyddiad cychwyn eich dyletswyddau. 

Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr mae'n rhaid ichi fonitro newidiadau gyda'u hoedran a'u henillion i weld a oes angen ichi eu rhoi ar eich cynllun. 

Bob tair blynedd mae'n rhaid ichi ailgofrestru er mwyn rhoi unrhyw staff sydd wedi gadael eich cynllun yn ôl i mewn. 

Byddwch hefyd angen parhau i dalu i mewn i'ch cynllun pensiwn, rheoli ceisiadau i ymuno neu adael y cynllun a chadw cofnodion.

Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr, dylech gwblhau’r tasgau canlynol.


Ar y dudalen hon

  • Monitro oedran a chyflog eich gweithwyr
  • Trefnu ceisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun
  • Rheoli ceisiadau i ddadgofrestru o’ch cynllun pensiwn
  • Cadw cofnod
  • Parhau i dalu cyfraniadau
  • Ail-gofrestru

Monitro oedran a chyflog eich gweithwyr

Mae rhaid i chi fonitro oedran a chyflog eich gweithwyr (yn cynnwys y rhai sydd newydd ddechrau) er mwyn gweld a oes angen i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn. Mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac ysgrifennu atyn nhw o fewn chwe wythnos o’r diwrnod y maen nhw’n dod yn gymmwys o ran oedran a chyflog.

Os oes gennych chi unrhyw weithwyr sydd…

  • rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wlad*
  • ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos

… mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac mae rhaid i’r ddau ohonoch dalu cyfraniadau ato.

*Os ydych yn ansicr o oedran pensiwn y wlad, defnyddiwch y Cyfrifydd Pensiwn y Wlad.

Trefnu ceisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun

Os oes unrhyw weithiwr yn gofyn am gael gadael cynllun o fewn mis o’i ymrestru, mae angen i chi stopio cymryd arian o’i gyflog a threfnu ad-daliad llawn o’r cyfanswm sydd wedi ei dalu. Fe fydd rhaid gwneud hyn o fewn mis o’r cais am adael.

Fe fydd rhaid i chi gyfrannu at y cynllun pensiwn oni bai fod y gweithiwr:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • ac yn ennill llai na o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.

Er mwyn darganfod faint y bydd rhaid i chi ei dalu, dylech holi darparwr eich cynllun pensiwn.

Rheoli ceisiadau i ddadgofrestru o’ch cynllun pensiwn

Mae hawl gan eich staff ddewis gadael eich cynllun pensiwn ar ôl ichi eu cofrestru arno. Os ydyn nhw’n gofyn am adael ymhen mis o’u cofrestru ar gynllun, caiff hyn ei alw yn ‘optio allan’. Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn yn rheoli’r broses ‘optio allan’ ar eich rhan chi. Cysylltwch gyda’ch darparwr os ydych chi’n ansicr. Os ydy unrhyw un o’ch staff yn ‘optio allan’, mae’n rhaid ichi roi’r gorau i ddidynnu arian o’u cyflog a threfnu ad-daliad cyflawn o’r hyn sydd wedi ei dalu hyd yn hyn. Mae’n rhaid ichi wneud hyn ymhen un mis o’u cais.

Cadw cofnod

Mae rhaid i chi gadw cofnod o sut rydych wedi cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol, yn cynnwys:

  • enw a chyfeiriad y bobl rydych yn eu rhoi ar gynllun pensiwn
  • cofnodion sy’n dangos pryd y talwyd cyfraniadau i’r cynllun pensiwn
  • unrhyw geisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun pensiwn
  • rhif cyfeirnod eich cynllun pensiwn neu rif cofrestru

Mae rhaid i chi gadw’r cofnodion yma am chwe blynedd oni bai am geisiadau am gael gadael y cynllun, mae rhaid cadw’r rhain am bedair blynedd.

Parhau i dalu cyfraniadau

Unwaith ichi sefydlu cynllun pensiwn a chofrestru eich staff cymwys arno, bydd angen ichi barhau gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol. Bydd angen ichi barhau i gyfrannu taliadau dyledus i'r cynllun pob tro byddwch yn cwblhau'r broses cyflogres. Rydym yn monitro'r cyfraniadau caiff eu cyfrannu tuag at bensiynau'r gweithle ac yn medru gweld os na chaiff taliadau dyledus eu cyfrannu at gynllun cofrestru awtomatig eich staff. Byddwn yn gweithredu os byddwch yn methu â chydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol parhaus ac mae'n bosib y bydd disgwyl ichi ôl-ddyddio taliadau heb eu talu.

Ail-gofrestru

Bob tair blynedd fe fydd rhaid i chi roi gweithwyr yn ôl ar y cynllun os ydyn nhw wedi dewis gadael, ac os ydyn nhw’n bodlonni’r meini prawf er mwyn eu gofrestru. Ail-gofrestru awtomatig ydy hyn. Fe fyddwn yn ysgrifennu atoch cyn eich dyddiad ail-gofrestru awtomatig i egluro ymhellach.

Mwy o wybodaeth am ail-gofrestru.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.