Skip to main content

Offer rhyngweithiol cyflogwyr

Asesu’r gweithwyr

Fe fydd y gweithwyr mewn un o ddau gategori:

Cyfanswm Cyflog Oedran 16 - 21 22 – Oedran Pensiwn y Wlad* Oedran Pensiwn y Wlad* - 74
Dros £833 y mis
(Dros £192 y wythnos)
Math 2 Math 1  Math 2
£833 y mis neu lai
(£192 yr wythnos neu lai)
Math 2  Math 2 Math 2

*Os nad ydych yn siwr beth ydy hwn, defnyddiwch y Gyfrifiannell Pensiwn y Wlad.

Pa fath?

Ewch ati'n ddi-drafferth i benderfynu pa 'gategori' y mae'r aelod o staff yn perthyn iddo

Y cwbl y bydd arnoch angen ei wybod ydy rhyw, oedran a faint mae pob gweithiwr yn ennill.

Which Type 1

Caiff yr aelod o staff ei ddynodi fel Math 1.

Which Type 2

Caiff yr aelod o staff ei ddynodi fel Math 2.

Which Type 3

Beth os ydy enillion fy staff yn amrywio?

Unwaith ichi ymrestru'r staff ar gynllun, byddan nhw'n parhau i fod yn rhan o'r cynllun ond bydd y cynnydd a'r gostyngiad yn eu henillion yn effeithio'ch cyfraniadau chi a'u cyfraniadau nhw tuag at y cynllun.

Beth os ydy'r staff yn bodloni'r meini prawf o ran enillion ar sail 'unwaith yn unig'?

Mae'n bosib y bydd gennych chi staff sy'n bodloni'r meini prawf o ran enillion ar sail 'unwaith yn unig', o ganlyniad i dâl ychwanegol neu weithio oriau ychwanegol. Fe allwch chi ohirio'r broses o'u hymrestru ar gynllun. (Gelwir hyn yn ohiriad)

Os ydych chi'n ansicr ynghylch beth sydd angen ichi ei wneud, defnyddiwch ein hadnodd i'ch helpu gydag asesu eich staff lle mae eu horiau a'u tâl yn amrywio a gweld beth sydd angen ichi ei wneud nesaf.

Asesu staff lle mae eu horiau a'u tâl yn amrywio

Mae enillion ac oriau fy aelod o staff yn amrywio - oes angen iddyn nhw fod wedi eu hymrestru ar gynllun pensiwn?

Fluctuating Hours Tool Intro

Pob tro byddwch chi'n talu eich aelod o staff, bydd yn rhaid ichi gyfrifo faint maen nhw'n ei ennill

Fluctuating Hours Tool Step3
Yn eich asesiad, bydd angen ichi gynnwys eu cyflog/tâl ynghyd â'r mathau eraill o daliadau fel y canlynol
  • comisiwn
  • tâl ychwanegol
  • tâl am oriau ychwanegol
  • tâl salwch statudol
  • tâl mamolaeth statudol
  • tâl tadolaeth statudol arferol neu ychwanegol
  • tâl mabwysiadu statudol

A fydd eich aelod o staff yn ennill dros £192 yr wythnos, (£384 pob pythefnos / £833 y mis) pob tro fyddwch chi'n eu talu?

Fluctuating Hours Tool Step5

Mae eich aelod o staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion felly mi fydd yn rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn

Fluctuating Hours Tool Step6

Bydd angen ichi a'ch aelod o staff gyfrannu tuag at y cynllun.

Bydd y swm y byddwch chi'n ei gyfrannu yn cynyddu a gostwng yn dibynnu ar enillion y staff.

Bydd dewis y feddalwedd cyflogres gywir yn hrlp ichi gyfrifo'r cyfraniadau.

Dysgu mwy am: Pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun

Bydd eich aelod o staff yn cyrraedd y trothwy enillion weithiau a phan fydd hynny'n digwydd, bydd angen ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn

Fluctuating Hours Tool Step7

Bydd angen ichi a'r aelod o staff gyfrannu tuag at y cynllun. Bydd cyfanswm eich cyfraniad yn cynyddu a gostwng, yn dibynnu ar enillion y staff.
Os ydy eu tâl ond yn cyrraedd y trothwy enillion unwaith yn unig, fe allwch chi ohirio. Mae hyn yn gyfle ichi ohirio'r broses o'u hymrestru ar gynllun pensiwn am hyd at dri mis.
Ni fydd angen ichi eu hasesu yn ystod y cyfnod hwn ond bydd angen ichi eu hasesu unwaith eto ar ddiwedd y cyfnod gohirio.
Dysgu mwy am : Pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun

Dydy eich aelod o staff ddim yn bodloni'r meini prawf o ran oedran felly ni fydd yn rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Mae ond angen ichi ymrestru eich staff ar gynllun pensiwn os ydyn nhw'n gofyn am fod yn rhan o gynllun. Fodd bynnag, fe fydd dal angen ichi gyflawni dyletswyddau, fel ysgrifennu atyn nhw i roi gwybod iddyn nhw sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.

Fluctuating Hours Tool Step4

Bydd angen ichi fynd ati i asesu oedran (ac enillion) eich staff pob tro y byddwch chi'n eu talu er mwyn gweld a oes unrhyw newidiadau.

Dysgu mwy am : Pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun


Cyflogi Staff tymhorol neu staff dros dro

Os ydych chi'n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, bydd angen ichi eu hasesu'n unigol bob tro fyddwch chi'n eu talu nhw. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio ichi am gwpl o ddiwrnodau, cwpl o wythnosau neu sawl mis.

Mae'n debyg y bydd asesu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn fwy o ymdrech ac yn cymryd mwy o amser, oherwydd bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth y canlynol:

Mae'n bosib y byddan nhw ond yn gweithio ichi am gyfnodau byr
Mae'n bosib y byddan nhw'n cychwyn a gorffen gweithio ichi ar ganol cyfnodau tâl
Mae'n bosib y bydd eu cyflog ac oriau yn amrywio

Staff tymhorol neu staff dros dro

Seasonal Workers Tool Intro

Os ydych yn cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, bydd gofyn ichi gyflawni dyletswyddau cyfreithiol. Gwybod mwy am eich dyletswyddau.

Am ba hyd fydd eich staff yn gweithio ichi?

Seasonal Workers Tool Step1

Os oes gennych chi staff sy'n gweithio ichi am lai na tri mis

Gallwch un ai ymrestru staff, sy'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion, ar gynllun pensiwn. Fel arall, gallwch ohirio'r broses o bennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn am hyd at dri mis. Y term am hyn ydy gohiriad. Bydd dal disgwyl ichi gyflawni dyletswyddau penodol.

Seasonal Workers Tool Step2

Os ydy'r staff yn dal yn gweithio ichi wedi i'r cyfnod gohirio ddod i ben, bydd angen ichi fynd ati i bennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Staff sy'n gweithio ichi am fwy na 3 mis

O'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi asesu eich staff pob tro rydych yn eu talu er mwyn pennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Seasonal Workers Tool Step3

Gallwch hefyd ystyried gohirio.

Cyfuniad o staff sy'n gweithio ichi am fwy na neu lai na 3 mis

O'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi asesu'ch staff pob tro rydych yn eu talu er mwyn pennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Seasonal Workers Tool Step4

hymrestru ar gynllun pensiwn.

Os oes gennych chi staff na fydd yn gweithio ichi am fwy na tri mis, mae'n bosib y byddwch yn penderfynu gohirio'r broses asesu i weld oes angen eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Mae'n bosib y byddwch yn penderfynu gohirio ar gyfer eich holl aelodau o staff er mwyn arbed amser ac ymdrech.

Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, bydd angen ichi asesu ac ymrestru unrhyw staff yn awtomatig sy'n dal yn gweithio ichi os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion.

Dysgu sut i ohirio.

Os nad ydych chi'n siŵr am ba hyd fydd eich staff yn gweithio ichi

O'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi asesu'ch staff pob tro rydych yn eu talu er mwyn pennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Seasonal Workers Tool Step5
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.