Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Gohirio

Y rhesymau posib dros ohirio

Un o'r prif resymau y mae'n bosib y byddwch yn gohirio'r broses o bennu pwy i'w hymrestru ar y cynllun pensiwn ydy os oes gennych chi staff tymhorol neu dros dro yr ydych yn gwybod y bydd yn rhoi'r gorau i weithio ichi ymhen tri mis. Gallwch hefyd ohirio'r broses pan fydd gennych chi staff sy'n cychwyn gweithio ar gyfnod prawf neu er mwyn gofalu fod y dyddiad ymrestru awtomatig yn cyd-fynd â dyddiadau eich prosesau busnes eraill fel cyflogres fisol neu ffurflenni treth ac ati. Gallwch benderfynu gohirio am unrhyw reswm busnes arall hefyd.

Pryd allwch chi ohirio

Fe allwch chi ond ohirio'r broses ymrestru awtomatig o'r canlynol:

  • eich dyddiad dechrau dyletswyddau
  • Diwrnod cyntaf gwaith aelod o staff
  • y dyddiad lle mae'r aelod o staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion am y tro cyntaf er mwyn bod yn rhan o gynllun pensiwn rydych chi'n cyfrannu tuag ato hefyd.

Cofiwch, os ydych yn penderfynu gohirio ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau, mae ond yn newid y dyddiad y mae'n rhaid ichi asesu eich staff, ni fydd yn newid eich dyddiad dechrau dyletswyddau nac eich dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno datganiad cydymffurfio.

Sut i ohirio

Mae'n rhaid ichi ysgrifennu at bob aelod o staff yn unigol er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw eich bod yn bwriadu oedi cyn pennu i'w hymrestru ar y cynllun a sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw. Bydd gennych chi hyd at chwe wythnos, o'r dyddiad rydych yn bwriadu gohirio, i ysgrifennu atyn nhw. Does dim angen ichi roi gwybod inni eich bod yn bwriadu gohirio.

Fe allwch chi ohirio am hyd at dri mis. Mae hawl gennych chi ohirio cymaint neu gyn lleied o staff yr hoffech chi ac nid oes yn rhaid i'r cyfnod gohirio fod yr un hyd ar gyfer pawb.

Os bydd unrhyw aelodau o’ch staff yn ysgrifennu atoch chi yn gofyn am gael ymuno â chynllun pensiwn yn ystod y cyfnod gohirio, bydd rhaid i chi eu cynnwys mewn cynllun ar ôl cael cais ganddynt.

Bydd rhaid iddyn nhw dalu i mewn i'r cynllun pensiwn os ydyn nhw:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • ac yn ennill o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.

I gael gwybod faint bydd rhaid i chi ei dalu, gofynnwch i ddarparwr eich cynllun pensiwn.

Templed Llythyr Gohirio

Defnyddiwch ein templed llythyr gohirio i'ch helpu i ysgrifennu at staff fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Fe allwch chi addasu'r llythyr i fodloni'ch anghenion personol chi.

Templed Llythyr Gohirio ar gyfer holl weithwyr (DOC, 35KB, 1 tudalen)

Templed Llythyr Gohirio mewn ieithoedd eraill

Fe allwch chi weld cyfieithiadau o'n templed llythyr gohirio - gan gynnwys fersiynau Bwlgariad, Pwylaidd a Rwmanaidd - o dan templedi llythyrau ymrestru.

Ar ddiwedd y cyfnod gohirio

Ar ddiwrnod olaf o'r cyfnod gohirio, mae angen ichi asesu'r staff er mwyn gweld ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i'w hymrestru ar gynllun pensiwn. Os ydyn nhw, mae'n rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn syth bin a chyfrannu tuag ato. Ni fydd modd ichi geisio am gyfnod gohirio pellach ar gyfer y staff hyn, hyd yn oed os wnaethoch chi ohirio am lai na'r cyfnod o dri mis yr oedd hawl gennych chi ohirio amdano. Fodd bynnag, os nad ydy aelod o staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i ymrestru ar gynllun pensiwn, fe allwch chi ohirio eto.