Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Pwy ydym yn ei wneud a phwy ydym ni

Y Rheoleiddiwr Pensiynau yw rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau pensiwn yn y gwaith.

Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) yw'r corff cyhoeddus sy'n diogelu pensiynau gweithle yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr a’r rhai hynny sy'n rhedeg pensiynau er mwyn i bobl gynilo’n ddiogel ar gyfer eu hymddeoliad. Rydym yn anelu at fod yn rheoleiddiwr cryf, gweladwy er mwyn i ni fagu hyder pobl mewn pensiynau.

Pwy ydym yn ei wneud a phwy ydym ni

Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) yw'r corff cyhoeddus sy'n diogelu pensiynau gweithle yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr a’r rhai hynny sy'n rhedeg pensiynau er mwyn i bobl gynilo’n ddiogel ar gyfer eu hymddeoliad. Rydym yn anelu at fod yn rheoleiddiwr cryf, gweladwy er mwyn i ni fagu hyder pobl mewn pensiynau

Beth ydym yn ei wneud

Rydym yn gyfrifol am:

  • wneud yn siwr bod cyflogwyr yn rhoi eu staff i mewn i gynllun pensiwn a thalu arian i mewn iddo (a elwir yn 'gofrestru awtomatig')
  • diogelu cynilion pobl mewn pensiynau gweithle
  • gwella'r ffordd mae cynlluniau pensiwn gweithle yn cael eu rhedeg
  • lleihau'r risg y bydd cynlluniau pensiwn yn ymuno â’r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) (yn Saesneg yn unig)
  • gwneud yn siwr bod cyflogwyr yn cydbwyso anghenion eu cynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio â thyfu eu busnes

Pwy ydym ni

Rydym yn gorff cyhoeddus a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym wedi ein lleoli yn Brighton ac mae gennym oddeutu 500 o staff.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) sy'n rheoleiddio cynlluniau pensiwn personol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys:

Mae aelodau ein bwrdd yn goruchwylio’r hyn a wnawn ac yn gwneud yn siwr bod TPR yn cael ei redeg yn dda.

Gweledigaeth a gwerthoedd

Ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr cryf, hyblyg, teg ac effeithlon. Drwy hyn rydym yn ceisio ennill parch cyflogwyr, ymddiriedolwyr a rhanddeiliaid eraill.

Gyda'n partneriaid, byddwn ni’n codi safonau ymddiriedolaethau a gwella dealltwriaeth cynilwyr o’u sefyllfa er mwyn creu canlyniadau gwell yn eu bywyd diweddarach.

Rydym wedi ymrwymo i wneud TPR yn lle gwych i weithio a gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein pobl i gyrraedd eu potensial llawn.

Rydym yn credu bod gwerthoedd penodol yn ganolog i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae'r rhain yn cynnwys bod yn:

  • ymroddedig i fynd ar drywydd canlyniadau da ar gyfer cynilwyr yn y gweithle
  • beiddgar a ddiduedd yn ein penderfyniadau
  • effro ac yn ymatebol i risgiau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
  • cefnogol i'n pobl
  • unedig fel un tîm

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn dangos sut fyddwn yn trin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na'r Saesneg yn y gwasanaethau a ddarparwn i'r cyhoedd.