Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Deall eich costiau

Mae'n bosib y bydd angen ichi ystyried y costau ynghlwm â chofrestru gyda'r system ymrestru awtomatig ynghyd â'r costau parhaol o dalu mewn i'r cynllun a rheoli'r broses

Bu inni gynnal gwaith ymchwil gyda chyflogwyr busnesau bach sydd eisoes wedi cyflawni eu dyletswyddau i ddeall lefel y costau i gyflogwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cofrestru awtomatig. Ymysg y cyflogwyr wnaeth dalu costau, dengys yr ymchwil y canlynol:

  • 61% o gyflogwyr sy'n cyflogi 1-4 aelod o staff ddim costau ymrestru ar y cyfan
  • 67% o gyflogwyr sy'n cyflogi 1-2 aelod o staff ddim costau ymrestru ar y cyfan
  • Ymysg y cyflogwyr heb staff i'w cofrestru ar gynllun pensiwn, dywedodd 93% nad oedd angen iddyn nhw dalu unrhyw gostau yn ymwneud â chefnogaeth neu gyngor.

Costau Ymrestru

Mae'r cyfanswm fyddwch chi'n ei dalu a'r amser fyddwch chi'n ei dreulio yn gosod y system ymrestru awtomatig yn dibynnu ar amryw ffactor. Ymysg y ffactorau y mae eich defnydd o gynghorwyr busnes, eich dewisiadau ynghylch y gyflogres a'r cynllun pensiwn fyddwch chi'n ei ddewis.

Defnyddiwch y ganllaw hon i ddysgu mwy am y costau posib fydd yn rhaid ichi eu talu ac i benderfynu oes angen ichi dalu am help.

Mae'r ffigyrau hyn wedi'u seilio ar gyflogwyr sy'n cyflogi rhwng un a phedwar aelod o staff. Mae'n debyg bydd y costau'n uwch os ydych yn cyflogi mwy o staff ac ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd e.e. Mae'n bosib y bydd rhai darparwyr neu gynghorwyr busnes yn codi am y nifer o staff rydych chi'n eu cyflogi. Hefyd mae'n bosib y bydd y costau yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd.

Mae mwy o beryg ichi orfod talu mwy os ydych yn cychwyn ar y broses yn hwyr a heb baratoi'n iawn. Gofalwch eich bod yn paratoi'n fuan er mwyn osgoi gorfod talu unrhyw gostau di-angen.

Mae'r amrediad prisiau y bu inni ei awgrymu wedi'i seilio ar ein gwybodaeth am y farchnad yn ystod Awst 2017. Fodd bynnag, os ydych chi'n gorfod talu mwy na'r prisiau hyn, fuasai'n syniad o bosib ichi ymchwilio i weld oes dewisiadau rhatach ar gael.

Hefyd, mae'n bosib y bydd gennych chi eisiau ymchwilio i weld oes unrhyw ddigwyddiadau am ddim gan rwydweithiau busnes yn eich ardal sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i'ch helpu gyda'ch tasgau.

Eich amser

Mae ein canllaw cam wrth gam ar-lein yn ymdrin â'r camau perthnasol er mwyn ymrestru â'r system ymrestru awtomatig mor syml a chyflym â phosib.

Bu i gyflogwyr ddweud fod mynd ati i ddarllen ein canllaw cam wrth gam i ddechrau wedi arbed amser iddyn nhw ar y cyfan. Os ydych chi wedi darllen y camau a bod pethau yn dal yn aneglur ichi, mae'n bosib y bydd angen help ychwanegol arnoch chi.

Mae ein hymchwil yn awgrymu fod cyflogwyr busnesau bach gyda rhwng un a phedwar aelod o staff fel arfer yn treulio cyfanswm o oddeutu 15 awr yn cyflawni eu tasgau cofrestru awtomatig er mwyn sefydlu'r cynllun cofrestru awtomatig.

Costau Cyngor

Bydd modd ichi gwblhau'r tasgau ynghlwm ag ymrestru'n awtomatig eich hun ond bosib y bydd angen help ychwanegol arnoch chi.

Mae cynghorwyr busnes yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a all fod o fudd ichi - yn enwedig os nad oes gennych chi lawer o amser neu os oes angen mwy o help arnoch chi i wneud y dewisiadau cywir.

Os ydych chi'n penderfynu talu am gyngor neu gefnogaeth gan gynghorydd busnes, cyfrifydd, llyfrifwr, darparwr cyflogres neu gynghorydd ariannol, cofiwch ofalu eich bod yn deall y tasgau ac yn penderfynu pwy sy'n gwneud pa dasgau er mwyn sicrhau nad ydych yn esgeuluso unrhyw dasgau. Hefyd, cofiwch gytuno ar brisiau ymlaen llaw. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o be all gynghorwyr busnes ei gynnig ichi er mwyn ichi fedru cymharu prisiau cyn ymrwymo ag unrhyw beth oherwydd gall y prisiau amrywio.

Dywedodd cyflogwyr busnesau bychain eu bod wedi talu rhwng £100 a £500 am gyngor gyda'r gost ar gyfartaledd yn £250. Roedd hyn yn talu am gyngor cyffredinol a chefnogaeth er mwyn ymrestru â'r system ymrestru awtomatig. Gall y cynghorwyr eich helpu i ddewis cynllun, penderfynu pwy ddylai fod yn rhan o'r cynllun a pharatoi'r gyflogres ar gyfer ymrestru awtomatig. Mae'r costau hyn yn gostau ar gyfartaledd yn genedlaethol ac mae'n bosib y byddan nhw'n amrywio mewn gwahanol ardaloedd.

Mae'n bosib y bydd y costau hyn yn amrywio hefyd yn dibynnu ar y math o gyngor a chefnogaeth rydych chi'n cytuno arnyn nhw gyda'r cynghorydd busnes a pha dasgau fyddan nhw'n eu cwblhau ichi. Unwaith ichi benderfynu ar y gwasanaeth sydd gennych chi eisiau gan y cynghorydd busnes ynghyd â'r costau, fe ddylech chi ofyn iddyn nhw gadarnhau hyn ar bapur ichi.

Paratoi'r Gyflogres

Os ydych chi'n gyfrifol am reoli'ch cyflogres neu os oes rhywun yn ei reoli ichi, mae'n bwysig eich bod yn darganfod pa dasgau ymrestru awtomatig gall y gyflogres eich helpu chi gyda nhw. Hefyd ewch ati i ddarganfod a fydd gennych chi'r holl wybodaeth ar gyfer eich darparwr cynllun pensiwn. O'n profiad ni, doedd dim costau ychwanegol i gyflogwyr er mwyn gofalu fod eu cyflogres yn cydymffurfio gyda'r system ymrestru awtomatig. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth isod yn dangos yr ystod costau i rai cyflogwyr.

Cyflogres gan gwmni allanol

Os mai cyfrifydd, llyfrifydd neu asiantaeth cyflogres sy'n gyfrifol am eich cyflogres, bydd angen ichi wirio ydyn nhw'n codi am ymrestru awtomatig yn eu costau presennol neu oes gofyn ichi dalu'n ychwanegol. Bu i rai cyflogwyr busnesau bychain ddweud wrthym ni os oedd gofyn iddyn nhw dalu'n ychwanegol roedd y gost yn gyffredinol rhwng £75 a £300 ac roedd y gost ar gyfartaledd oddeutu £150.

Amser a dreuliwyd ar ddyletswydau parhaus

Bu inni ofyn i gyflogwyr, fu'n cwblhau tasgau cofrestru awtomatig am oddeutu blwyddyn, faint o amser y buon nhw'n treulio pob mis yn cyflawni eu dyletswyddau parhaus, fel prosesu ceisiadau i ddadgofrestru o neu gofrestru ar eu cynllun (ymuno a pheidio ag ymuno) ac ati. Ar gyfartaledd, bu i gyflogwyr ddweud y buon nhw'n treulio dwy awr neu lai y mis yn cyflawni eu dyletswyddau parhaus. Roedd hyn yn amrywio yn ôl maint busnes y cyflogwyr gyda 58% o gyflogwyr gyda 1-4 gweithiwr yn treulio llai nag awr.

Costau'r dyletswyddau parhaus

Gallwch benderfynu talu am gostau'r dyletswyddau parhaus eich hun ond bosib y byddwch hefyd yn penderfynu cynnig y gwaith i gynghorwr neu ddarparwr allanol.

Bu inni hefyd ofyn i gyflogwyr oedden nhw'n talu i dderbyn help gan gynghorydd i gyflawni eu dyletswyddau parhaus. Bu i oddeutu bumed o gyflogwyr busnesau canolig, bach a micro ddweud eu bod nhw wedi talu am gynghorwr allanol. Bu i'r cyflogwyr ddweud fod y gost fisol ar gyfartaledd yn amrywio o £42 i gyflogwyr gyda 1-4 gweithiwr ac yn cynyddu i £100 ar gyfer cyflogwyr gyda 5 i 9 weithiwr a £175 i gyflogwyr gyda 10 i 49 gweithiwr.

Daw'r wybodaeth ynghylch deall eich costau o amrywiaeth o wahanol ffynonellau fel Arolwg Ôl-Ddatgan y Rheoleiddiwr Pensiynau ymysg cyflogwyr gyda dyddiad gweithredu rhwng Ionawr a Thachwedd 2016 a gwybodaeth am y farchnad gan Dîm Cyswllt Diwydiant y Rheoleiddiwr Pensiynau o Awst 2017 ymlaen.