Er mwyn cydymffurfio gyda rheolau Ymrestru Awtomatig, mae gofyn ichi ymrestru rhai staff penodol ar gynllun pensiwn yn y gwaith a chyfrannu tuag ato.
Yn ôl y gyfraith, mae lleiafswm ffi y mae'n rhaid ichi a'ch staff ei gyfrannu tuag at y cynllun.
Cynllun pensiwn
Sef canran o enillion eich staff a chanran gennych chi, y cyflogwr.
Bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth enillion eich staff, gan gynnwys unrhyw daliadau eraill fel tâl ychwanegol, comisiwn a thâl statudol.
Slip Cyflog
Mae'n bosib y bydd yn rhaid ichi gyfrannu mwy na'r lleiafswm cyfreithiol at rai cynlluniau pensiwn.
Pob tro y byddwch chi'n talu aelodau o staff sy'n rhan o gynllun pensiwn, bydd angen ichi gyfrifo faint y mae gofyn ichi gyfrannu tuag at y cynllun.
Fe all y feddalwedd cyflogres briodol eich helpu gyda hyn neu mae gennym ni adnoddau y gallwch chi eu defnyddio ar ein gwefan.
Mae hefyd angen ichi ofalu eich bod yn talu'r cyfraniadau tuag at y cynllun pensiwn ar amser.
Os ydych chi'n ansicr ynghylch erbyn pryd y mae angen ichi dalu, cysylltwch gyda'ch darparwr cynllun pensiwn.
I ddysgu mwy am sut i gyfrifo cyfaniadau a'r gwahanol daliadau y dylech chi eu cynnwys, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau: Cyfrannu ar eich cynllun pensiwn