Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Ariannu eich cynllun buddion wedi'u diffinio

Mae angen i chi sicrhau bod eich cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio (DB) wedi ei ariannu’n briodol a bod cyfraniadau wedi eu talu mewn pryd.

Amcan ariannu statudol

Os ydych chi’n rhedeg cynllun DB, mae angen i chi fod yn ymwybodol bod angen i’r rhan fwyaf o gynlluniau yn darparu unrhyw fuddion wedi’u diffinio fodloni amcan ariannu statudol, sy’n asesu’r lefelau gofynnol o gyllid ar gyfer cynllun.

Fel cyflogwr, bydd angen i chi weithio’n agos gyda’r ymddiriedolwyr i sicrhau bod eich cynllun yn bodloni’r gofynion ariannu hyn. Yn benodol, mae’n debygol y bydd angen i chi gytuno gyda’r ymddiriedolwyr:

  • ar ddatganiad o egwyddorion ariannu
  • ar atodlen o gyfraniadau sy’n gyson â’r egwyddorion hyn
  • cynllun adfer yn sefydlu’r camau i’w cymryd i ddelio â’r diffyg ble nad yw’r amcan ariannu statudol wedi ei fodloni

Hefyd mae angen ichi gytuno ar brisiad gyda’r ymddiriedolwyr o fewn 15 mis o’r dyddiad effeithiol. Dyma’r dyddiad pan yw’r actwari’n mesur asedau a dyledion cronnus y cynllun. Os byddwch yn methu â chytuno ar brisiad o fewn yr amser hwn mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr roi gwybod inni cyn gynted â phosibl. Gallai methu â chyflwyno prisiad yn brydlon arwain at sefyllfa lle byddwn ni’n cymryd camau gorfodi.

Cyfriflenni ariannu blynyddol

Mae ein datganiad ariannu blynyddol yn darparu canllaw i ymddiriedolwyr sy’n cyflawni prisiadau. Mae’n berthnasol i ymddiriedolwyr a chyflogwyr yr holl gynlluniau DB, ond wedi ei anelu’n bennaf at y rhai sy’n cyflawni prisiadau ar hyn o bryd. Mae datganiad ariannu blynyddol yn sefydlu ein barn parthed y risgiau mae cynlluniau gyda dyddiadau prisio effeithiol ar gyfer y flwyddyn benodol honno yn eu hwynebu.

Gallwch ddod o hyd i ddatganiadau ariannu blynyddol blaenorol, ynghyd â dadansoddiad ategol, yn ein hadran datganiadau.

Gwerthiannau corfforaethol ac ymadawiadau cyflogwyr

Gallai rhai trafodion corfforaethol effeithio ar eich gallu i fodloni eich rhwymedigaethau i’r cynllun pensiwn naill ai ar sail barhaus neu mewn achos o ansolfedd ac, o ganlyniad, gallai fod yn niweidiol i’r cynllun a’i aelodau. Er enghraifft, gallai’r trafodion canlynol gael effaith o’r fath:

  • gwerthu neu ailstrwythuro’ch busnes
  • talu’r elw ar fuddsoddiad
  • gadael cynllun pensiwn amlgyflogwr

Bydd angen i chi ystyried yr effeithiau ar y cynlluniau pensiwn dan sylw a goblygiadau cyfreithiol eich gweithredoedd, yn cynnwys a allai’r trafodion, o bosibl, gael eu hystyried i fod yn syrthio o fewn cylch gwaith grymoedd atal osgoi’r rheolydd.

Gall effaith rhai mathau o ailstrwythuro grwp fod yn derfynu cyfranogiad cyflogwyr penodol mewn cynllun pensiwn. Yn gyffredinol, pan fydd cyflogwr yn rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn cynllun pensiwn amlgyflogwr DB, bydd dyled yn daladwy i’r cynllun, sy’n gyfartal i gyfran y cyflogwr sy’n gadael o ddiffyg prynu allan y cynllun oni bai bod y cyflogwr yn sefydlu trefniant amgen sy’n lleihau ei atebolrwydd. Gall ymddiriedolwyr orfodi’r ddyled hon yn erbyn y cyflogwr.

Am ragor o wybodaeth ar drafodion corfforaethol ac ymadawiadau cyflogwyr o gynlluniau amlgyflogwyr, gweler y canllaw canlynol:

Trafodion corfforaethol
Rôl y cyflogwr a beth sydd angen iddo ystyried parthed y cynllun os yw'n ystyried trafodyn corfforaethol.

Gadael cynlluniau pensiwn DB
Mae’r canllaw hwn yn amlinellu sut ddylai ymddiriedolwyr ddelio â chynnig sy’n cynnwys gadael cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio.

Cynlluniau amlgyflogwyr ac ymadawiad cyflogwyr
Mae’r canllaw hwn i helpu ymddiriedolwyr a chyflogwyr cynlluniau amlgyflogwyr i ddeall y gwahanol fecanweithiau ble gall cyflogwr adael y cynllun.

Grymoedd atal osgoi

Gallwn gyhoeddi hysbysiad cyfraniad neu gyfarwyddyd cefnogaeth ariannol yn erbyn cyflogwyr gyda chynlluniau pensiwn DB ac i bersonau sy’n gysylltiedig â chyflogwyr o’r fath dan amgylchiadau ble mae gan weithgaredd corfforaethol effaith andwyol ar ddiogelwch y cynlluniau pensiwn. Bwriad hysbysiad cyfraniad neu gyfarwyddyd cefnogaeth ariannol yw sicrhau nad yw atebolrwydd pensiwn wedi eu hosgoi neu eu gadael heb eu cefnogi.

Gellir cyhoeddi hysbysiad cyfraniad, sy’n gofyn i’r unigolyn dan sylw dalu’r swm a nodwyd yn yr hysbysiad (i’r cynllun), nid yn unig mewn amgylchiadau ble cafwyd ymgais fwriadol i osgoi dyled cyflogwr neu i gyfaddawdu ar y ddyled honno, ond mae hefyd yn cynnwys sefyllfaoedd ble gweithredodd cyflogwr (neu y methodd â gweithredu) mewn modd sydd wedi ‘effeithio'n andwyol mewn modd materol' ar y tebygolrwydd y bydd aelodau yn derbyn buddion cynllun pensiwn a gronnwyd.

Am ragor o wybodaeth gweler y cod ymarfer a chanllaw canlynol parthed y prawf niwed materol y cyfeirir ato uchod:

Amgylchiadau parthed y prawf niwed materol
Mae’n sefydlu’r amgylchiadau ble mae’r rheolydd yn disgwyl cyhoedd hysbysiad cyfraniad o ganlyniad i fod o’r farn y bodlonwyd y prawf niwed materol.

Prawf niwed materol
Mae’r enghreifftiau hyn yn arddangos sut y gellid ystyried y prawf niwed materol ar gyfer hysbysiadau cyfraniadau a’r ‘cod ymarfer 12: amgylchiadau parthed y prawf niwed materol’ yn ymarferol.

Gellir cyhoeddi cyfarwyddyd cefnogaeth ariannol, sy’n gofyn i’r sawl y mae wedi ei gyfeirio ato sefydlu cefnogaeth ariannol ar gyfer cynllun, dan amgylchiadau ble mae cyflogwr cynllun DB yn gwmni gwasanaeth neu heb adnoddau digonol.

Clirio

Mae’n bosibl ‘gofyn am glirio’ gennym parthed trafodion sy’n faterol niweidiol i allu’r cynllun DB i fodloni ei atebolrwydd pensiwn.

Mae clirio yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r broses wirfoddol o gael datganiad gennym, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, i ddweud na fydd y rheolydd yn defnyddio ei rymoedd atal osgoi parthed digwyddiad penodol.

Am ragor o wybodaeth gweler y canllaw canlynol ac astudiaethau achos ar y broses glirio a’r hyn a ystyriwn i fod yn gais clirio:

Clirio
Mae’r canllaw hwn yn darparu cefnogaeth i ymddiriedolwyr a chyflogwyr wrth ddelio â digwyddiadau a allai effeithio ar eu cynllun pensiwn, a ble ceir cais am ddatganiad clirio.

Ariannu cynllun ac astudiaethau achos clirio
Mae’r astudiaethau achos cyllido hyn (cyhoeddwyd y fersiynau gwreiddiol yn ‘ariannu cynllun: dadansoddiad o gynlluniau adfer’ yn Rhagfyr 2008) yn arddangos sut mae’r rheolydd, cyflogwyr ac ymddiriedolwyr wedi cydweithio i ddatrys materion ariannu.

Digwyddiadau hysbysadwy

Os ydych chi’n rhedeg cynllun DB, rhaid i chi roi gwybod i ni yn brydlon am ddigwyddiadau ‘hysbysadwy’. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau penodol sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar ddiogelwch buddion aelodau. Os bydd digwyddiad a ragnodwyd yn digwydd, yna mae gofyniad deddfwriaethol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolydd cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Rhaid i gyflogwyr ein hysbysu o ddigwyddiadau ‘yn ymwneud â chyflogwyr’ – er enghraifft, penderfyniad i geisio cyfaddawd i ddyled sy’n daladwy i gynllun. Rhaid i ymddiriedolwyr ein hysbysu o ddigwyddiadau ‘yn ymwneud â chynllun’ – er enghraifft, penderfyniad i ganiatáu buddion i aelod y mae eu cost yn fwy na’r 5% isaf o asedau cynllun ac £1.5 miliwn.

Mae adrodd ar ddigwyddiad hysbysadwy yn rhoi cyfle i ni gynorthwyo neu ymyrryd, cyn y gelwir y Gronfa Ddiogelu Pensiynau.

Yn gyffredinol, gelwir y Gronfa Ddiogelu Pensiynau os bydd cyflogwr yn mynd i ansolfedd a bod diffyg cyllid ar ei gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio.

Rydym wedi cyhoeddi’r cod ymarfer a chanllaw canlynol ar y gofynion a fframwaith digwyddiad hysbysadwy.

Digwyddiadau hysbysadwy
Mae nifer o ddigwyddiadau hysbysadwy wedi eu cynllunio i roi rhybudd cynnar i’r Rheolydd Pensiynau o alwad bosibl ar y Gronfa Ddiogelu Pensiynau. Os bydd digwyddiad yn digwydd, rhaid gwneud hysbysiad ysgrifenedig i’r Rheolydd Pensiynau cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Y fframwaith digwyddiadau hysbysadwy
Prif ddiben y fframwaith digwyddiadau hysbysadwy yw rhoi rhybudd cynnar i’r Rheolydd Pensiynau o alwadau posibl ar y Gronfa Ddiogelu Pensiynau - dylid darllen y canllaw hwn law yn llaw â’r ‘cod ymarfer 2: digwyddiadau hysbysadwy’.

Ymgynghori â staff am newidiadau i bensiynau

Os ydych chi’n ystyried gwneud newidiadau i’ch cynllun pensiwn, p’un a yw'n gynllun DB neu DC, dylid trafod y rhain gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr eich cynllun pensiwn. Yn ddibynnol ar faint o gyflogeion sydd gennych chi, efallai y bydd hefyd angen ymgynghori â chyflogeion a effeithiwyd cyn gwneud newidiadau penodol i’ch cynllun pensiwn os yw'r rhain yn ‘newidiadau a restrwyd’ fel y sefydlwyd yn y rheoliadau.

Mae newidiadau a restrwyd yn cynnwys cyflogwr yn penderfynu cau cynllun i aelodau newydd, cau’r cynllun i groniadau buddion pellach, newid y sail ble gall aelodau gronni buddion, neu ddiddymu’r atebolrwydd i wneud cyfraniadau cyflogwyr.

Y ddyletswydd i ymgynghori ar newidiadau i gynllun (PDF, 48kb, 5 tudalen)
Mae’n darparu gwybodaeth i helpu cyflogwyr i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol o ran y broses o wneud newidiadau penodol sy’n effeithio ar gynlluniau pensiwn.