Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cydymffurfio'n hwyr â'ch dyletswyddau?

Pwysig

Os ydych yn hwyr yn cydymffurfio neu'n meddwl y gallech fod, dylech ddweud wrthym amdano ar unwaith. Rydym yn disgwyl i chi roi'r holl staff yn ôl yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe baech wedi cydymffurfio'n brydlon.
Ein hamcan cyffredinol yw i addysgu a'ch galluogi i gydymffurfio a'r ddeddfwriaeth.

Os nad ydych wedi deall eich dyletswyddau neu os ydych heb allu eu cwblhau, byddwn yn darparu cymorth er mwyn eich galluogi i'w cwblhau. Fodd bynnag, os ydych chi wedi anwybyddu eich dyletswyddau, mae'n bosib y byddwn yn mynd ati i ofalu eich bod yn cydymffurfio.

Er enghraifft, os na roesoch aelod o staff ar gynllun pensiwn pan yr oedd yn ofynnol i chi wneud hynny, bydd angen i chi:

Mae'n rhaid ichi dalu unrhyw gyfraniadau cyflogwr sy'n ddyledus ac mae'n rhaid i'ch aelod o staff dalu eu cyfraniadau dyledus nhw, oni bai eich bod chi yn dewis eu talu ar eu rhan.

Mae'n bosib y byddan hw'n aniatáu ichi dalu'r cyfraniadau mewn rhandaliadau ond mae'n rhaid ichi wirio gyda'r cynllun ydy hyn yn opsiwn. Fel rhan o unrhyw gamau gorfodi, mae'n bosib y byddwn yn gofyn ichi dalu cyfraniadau eich staff ynghyd â'ch cyfraniadau chi.