Mae'n rhaid i bob cyflogwr gofrestru staff penodol ar gynllun pensiwn yn y gwaith a chyfrannu tuag at y cynllun. Dyma ydy cofrestru awtomatig.
Bydd angen ichi ddechrau ar eich dyletswyddau ar y diwrnod cyntaf y bydd eich aelod cyntaf o staff yn dechrau gweithio. Mae'n rhaid ichi wirio oedran ac enillion eich holl staff ar y dyddiad hwn, i weld pwy y mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn. Bydd angen ichi wneud hyn bob tro y byddwch chi'n talu'ch staff.
Os ydych chi'n cyflogi staff tymhorol neu dros dro, mae'n bosib y bydd y broses asesu pwy i'w cofrestru ar gynllun pensiwn yn fwy cymhleth. Bydd yn rhaid ichi dreulio mwy o amser yn asesu a bydd yn fwy o ymdrech ichi gan y bydd yn rhaid ichi ddwyn i ystyriaeth:
- eu henillion ac oriau amrywiol
- mae'n bosib y byddan nhw'n cychwyn gweithio ichi neu'n gadael y gweithle ar ganol cyfnodau tâl. Neu
- mae'n bosib y byddan nhw'n gweithio ichi am gyfnodau byr o amser
Er mwyn gofalu ei fod yn broses rhwydd, ac i arbed amser, fe ddylech chi wirio a oes modd i'ch meddalwedd cyflogres eich helpu. Hefyd gallwch ystyried gohirio er mwyn oedi'r broses o ganfod pwy i'w cofrestru ar gynllun pensiwn.
I wybod mwy am ymdrîn â gweithwyr tymhorol ynghyd â gwirio eich meddalwedd a gohirio, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.