Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Sgript Trosolwg o Oriau a Thâl sy'n amrywio

Asesu staff lle mae eu horiau a thâl yn amrywio

Ar gyfer ymrestru awtomatig, bydd gofyn ichi ymrestru rhai staff penodol ar gynllun pensiwn yn y gwaith a chyfrannu tuag ato.

Bydd angen ichi asesu oedran ac enillion yr holl staff pob tro byddwch chi'n eu talu.

Mae'n rhaid ichi ymrestru unrhyw un rhwng 22 ac Oed Pensiwn Gwladol ac sy'n ennill mwy na swm penodol ar gynllun pensiwn.

Pan fydd oriau a thâl eich staff yn amrywio, fe all hyn effeithio ar pryd fydd angen ichi eu hymrestru ar gynllun a chyfanswm eich cyfraniadau chi a'u cyfraniadau nhw.

Os ydy eich staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion ar gyfer ymrestru awtomatig, bydd yn rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

Unwaith y bydd eich staff yn rhan o gynllun, wrth i'w tâl amrywio, bydd hyn yn effeithio ar gyfanswm eich cyfraniadau chi a'u cyfraniadau nhw tuag at y cynllun..

Felly, bydd angen ichi gyfrifo'r cyfraniadau tuag at y cynllun bob tro fyddwch chi'n talu'ch staff.

Bydd cyfraniadau chi a'ch aelodau o staff tuag at y cynllun pensiwn yn cynyddu a gostwng yn dibynnu ar enillion y staff.

Os bydd eu henillion yn is na swm penodol, ni fydd angen ichi gyfrannu o gwbl ond byddan nhw'n dal i fod ar y cynllun.

Pan fyddwch yn asesu enillion eich staff, bydd angen ichi gynnwys unrhyw fath eraill o daliadau fel comisiwn, tâl ychwanegol, tâl am oriau ychwanegol ynghyd â thâl statudol, am ben eu cyflog neu dâl arferol.

I wybod mwy am asesu staff gydag oriau neu dâl sy'n amrywio ac i wybod mwy am sut i ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau .www.tpr.gov.uk/fluctuating-cy