Skip to main content

Rhoi gwybod am bryderon am eich pensiwn gweithle

Dylech ddweud wrthym a oes gennych bryderon am eich cynllun pensiwn gweithle neu os ydych yn amau nad yw'n cael ei redeg yn iawn.

Os yw eich pryder yn ymwneud â'ch cyflogwr, dylech siarad â nhw yn gyntaf. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, neu os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â hwy, rhowch wybod i ni am y mater.

Rhowch unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i ddeall eich pryder, fel slipiau cyflog neu lythyrau gan eich cyflogwr.

Rhowch yr hyn sydd gennych eisoes yn unig i ni. Peidiwch â chwilio am ragor o wybodaeth i gefnogi eich pryder.

Ar-lein

Dywedwch wrthym am:

  • golli taliadau i'ch cynllun pensiwn
  • nad yw eich cyflogwr yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau pensiwn
  • bryderon eraill am eich cynllun pensiwn

Ffôn, e-bost neu bost

Os na allwch roi gwybod am eich pryderon ar-lein, gallwch ddefnyddio ffôn, e-bost neu bost.

Ffoniwch ni ar 0345 600 7060.

Rydym ar agor rhwng 9:00am a 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys gwyliau cyhoeddus yn Lloegr.

Mae gwasanaeth negeseuon llais 24 awr ar gyfer y rhif hwn.

E-bostiwch ni yn: report@tpr.gov.uk.

Ysgrifennwch atom yn Y Tîm Gwybodaeth, Y Rheoleiddiwr Pensiynau, Telecom House, 125-135 Preston Road, Brighton, BN1 6AF.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi roi gwybod i ni am eich pryder, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i egluro rhywfaint o'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni.

Byddwn yn ymchwilio i'ch pryder os credwn fod achos i wneud hynny. Noder na allwn roi adborth ar ganlyniad ein hasesiad neu ymchwiliad (os cynhelir un) oherwydd rhesymau cyfreithiol.

Diogelu hunaniaeth

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i ni, deallwn y gallai effeithio ar eich perthynas â'r unigolyn neu'r sefydliad yr ydych yn adrodd amdano, yn enwedig os mai eich cyflogwr chi yw hwn.

Mae'n ddefnyddiol i ni gael eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth, ond gallwch ddewis bod yn ddienw wrth roi gwybod i ni am bryderon.

Mewn rhai sefyllfaoedd, pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth inni, efallai y gellir ei ystyried yn chwythu'r chwiban. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd gennych warchodaeth gyfreithiol fel chwythwr chwiban, os codwch bryder dilys yn ddidwyll am gamweddau.

Bydd TPR yn cymryd pob cam rhesymol i gynnal eich cyfrinachedd fel chwythwr chwiban os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Darllenwch ragor am chwythu'r chwiban i gyflogeion ar GOV.UK.

Diogelu data

I gael gwybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, ei gadw'n ddiogel a'ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.

Sut i wneud cwyn

Sut i wneud cwyn am Y Rheoleiddiwr Pensiynau fel sefydliad neu’r gwasanaethau rydym yn cynnig.  

Arweiniad ar ddinoethi (‘chwythu chwiban’) ar GOV.UK

Gellir canfod gwybodaeth bellach ynghylch dinoethi ar wefan GOV.UK.