Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

1. Gwirio fod gennych chi staff i'w hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn

Asesu eich staff

Ar drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol, bydd angen i chi asesu staff a adawodd eich cynllun pensiwn, neu leihau eu cyfraniadau, i gyfrifo a oes angen i chi eu rhoi yn ôl yn eich cynllun.

Unrhyw staff sydd:

  • rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth
  • yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, neu £833 y mis, neu £192 yr wythnos

mae'n rhaid ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn ac mae'n rhaid ichi'ch dau gyfrannu tuag ato. Does dim modd ichi ohirio er mwyn oedi asesu'ch staff.

Os ydy unrhyw un o'ch staff yn ieuengach neu'n hŷn na'r oedran uchod a'r meini prawf o ran enillion, yna does ond rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn os ydyn nhw'n gofyn am ymuno ag un.

Does gen i ddim staff sydd angen eu hail-gofrestru ar gynllun pensiwn

Rhaid i chi gwblhau a chyflwyno eich ail-ddatganiad o gydymffurfiad o fewn pum mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.

Eisoes wedi mynd heibio i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol?

Gelwir y dyddiad yr ydych yn asesu eich staff yn ddyddiad ailgofrestru. Os nad ydych wedi asesu eich staff o fewn chwe wythnos i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol, gallwch wneud hyn ar unrhyw ddyddiad hyd at dri mis ar ôl hynny. Defnyddiwch ein teclyn dyddiad ailgofrestru i weld eich dyddiadau sydd ar gael.

Nid yw eich dyddiad cau ar gyfer ailddatgan yn newid os byddwch yn dewis dyddiad gwahanol i asesu eich staff. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gwblhau eich ailddatganiad cydymffurfio o fewn pum mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.

Does dim rhaid ichi ddatgan eich dyddiad ail-gofrestru nes ein bod yn gofyn amdano yn eich ail-ddatganiad cydymffurfio.

Ail-gofrestru eich staff ar eich cynllun pensiwn

Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe wythnos i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol (neu'r dyddiad diweddarach y dewisoch asesu eich staff).

ichi ganfod pa staff sydd angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn, rŵan fe fydd yn rhaid ichi eu hail-gofrestru a chychwyn cyfrannu at y cynllun.

Byddwch yn ail-gofrestru eich staff ar gynllun pensiwn yn dilyn yr un broses er mwyn cofrestru eich staff ar y cynllun am y tro cyntaf. Bydd angen ichi wneud y canlynol:

  • Anfon manylion y staff rydych yn eu cofrestru ar gynllun pensiwn at eich darparwr pensiwn yn fuan. Mae'n rhaid ichi rannu'r holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cofrestru'ch staff ar y cynllun pensiwn am y tro cyntaf gyda'ch darparwr cynllun pensiwn.
  • Canfod faint sydd angen ichi a'ch staff gyfrannu at y cynllun a threfnu'r taliadau. Darganfod mwy am dalu cyfraniadau at eich cynllun pensiwn. Mae'n bosib y bydd eich meddalwedd cyflogres yn eich helpu i wneud hyn.

Os ydych chi'n dal yn ansicr o'r broses, cysylltwch gyda'ch darparwr cynllun pensiwn.

Os oes unrhyw un o'ch staff yn dewis dadgofrestru o'ch cynllun pensiwn (optio allan) ymhen un mis o gael eu hail-gofrestru, mae'n rhaid ichi beidio â didynnu arian o'u cyflog a threfnu ad-daliad llawn o beth sydd wedi'i dalu hyd yn hyn.