Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Am beth y dylech chwilio wrth ddewis cynllun pensiwn

Fe ddylech chi edrych ar y gwahanol gynlluniau a dewis un sy’n addas ar eich cyfer chi a’ch gweithwyr. Mae nifer o bethau allweddol y dylech chi eu gwirio cyn ichi benderfynu pa gynllun pensiwn i'w ddefnyddio ar gyfer eich staff:

Mae'n rhaid i’r cynllun pensiwn rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer cofrestru awtomatig ateb rhai rheolau, megis: ni all fynnu bod y gweithwyr yn gwneud unrhyw beth er mwyn ymuno â’r cynllun na dewis eu buddsoddiadau eu hunain.

Mae rhai cynlluniau a fydd ond yn derbyn cyflogwyr gyda mwy na’r isafswm gweithwyr neu â’r gweithwyr yn ennill o leiaf rhyw swm penodol o arian. Sicrhewch fod modd i chi ddefnyddio’r cynllun ar gyfer pob un o’ch gweithwyr.

Mae’n debyg mai darparwr mawr arbenigol fydd yn cynnig y cynlluniau a fydd ar gael i chi a bydd llawer o gyflogwyr eraill yn ei ddefnyddio. Fel arfer mae’r rhain yn costio llai ac yn gofyn am lai o waith gan y cyflogwr o’u cymharu â chynlluniau eraill.

Gwiriwch os ydy'r cynllun naill ai'n cael ei reoli gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu wedi'i adolygu'n annibynnol er mwyn helpu'r darparwr ddangos ei fod yn bodloni safon dda o weinyddiaeth (o'r enw 'yswiriant ymddiriedolaeth feistr').

Fe ddylech chi ofyn i'r darparwr pa ffioedd y bydd gofyn ichi a'ch staff eu talu.

Eich prisiau a chostau

Efallai y bydd darparwyr gwahanol yn codi tâl arnoch chi mewn ffyrdd gwahanol, er enghraifft, ffi fisol barhaol neu ffi un tro o flaen llaw ar gyfer hyd bywyd y cynllun pensiwn. Efallai y bydd gan rhai cynlluniau hefyd ffi gadael ar gyfer cyflogwyr sy'n newid cynlluniau pensiwn.

Costau a ffioedd staff

Fel aelodau ar gynllun pensiwn bydd eich staff yn talu ffioedd er mwyn gofalu am gostau rheoli eu cynilion. Efallai y bydd gan rhai cynlluniau ffioedd gwahanol ar gyfer aelodau gwahanol. Er enghraifft, efallai bydd gan rhai cynlluniau ffioedd is i'ch staff sy'n derbyn cyflog isel, fydd efallai yn golygu bod y staff hyn yn talu llai am eu pensiwn, pa bynnag fath o ryddhad treth mae'r cynllun yn ei ddefnyddio.

Mae'n bwysig eich bod chi'n pwyso a mesur y costau a'r ffioedd yn erbyn lefel y gwasanaethau bydd y cynllun yn ei ddarparu. Efallai y bydd rhai gwasanaethau yn gwneud cofrestru awtomatig yn haws ichi yn yr hir dymor.

Pa ddull rhyddhad treth sydd orau i'ch staff?

Mae trefniadau rhyddhad treth yn ffactor wrth ddewis eich cynllun pensiwn ar gyfer cofrestru awtomatig. Mae’n well dewis cynllun sy’n defnyddio dull rhyddhad treth addas ar gyfer eich amgylchiadau chi.

Mae dwy ffordd y gall staff gael rhyddhad treth ar yr hyn maen nhw’n ei dalu i mewn i’w pensiwn (fodd bynnag, mae rhai darparwyr yn defnyddio enwau gwahanol):
  • Rhyddhad yn y ffynhonnell: Gallwch ddweud mai cynllun rhyddhad yn y ffynhonnell ydyw os oes rhaid i'r darparwr pensiynau hawlio’r rhyddhad treth gan CThEM.

  • Trefniadau cyflog net: Os oes angen i chi gyfrifo'r dreth ar y cyflog sy’n weddill ar ôl i'r cyflogai dalu i mewn i’r pensiwn, mae'r cynllun yn defnyddio trefniadau cyflog net.

Dim ond un dull y gall cynllun ei ddefnyddio ar gyfer eich holl staff, a bydd y dull rydych chi’n ei ddewis yn cael effaith wahanol ar staff ar gyflogau is a staff ar gyflogau uwch. Mae manteision i’r ddau ddull rhyddhad treth, a dydyn ni ddim yn argymell un dros y llall, ond mae’n syniad da i chi sicrhau bod y cynllun yn defnyddio'r dull gorau i chi.

Staff sydd ddim yn talu treth incwm

Os oes gennych chi staff sydd ddim yn talu treth incwm byddan nhw'n cael rhyddhad treth dim ond os byddwch chi'n dewis cynllun sy'n defnyddio rhyddhad wrth ffynhonnell. Os byddwch chi'n dewis cynllun sy'n defnyddio trefniadau tâl net, fydd yr aelodau staff hyn ddim yn cael rhyddhad treth a byddan nhw'n talu 20% yn fwy am eu pensiwn.

Efallai y bydd gan rai cynlluniau sy'n defnyddio trefniant tâl net ffioedd aelodau is ar gyfer eich staff felly bydd angen ichi ystyried hyn yn ofalus.

Os ydych chi'n defnyddio'r cynllun aberthu cyflog er mwyn rheoli cyfraniadau pensiwn, fydd staff sydd ddim yn talu treth incwm ddim yn derbyn rhyddhad treth pa bynnag ddull rhyddhad treth bydd eich cynllun yn ei ddefnyddio.

Staff sy'n talu treth

Os ydy'ch staff yn talu treth incwm byddan nhw'n cael rhyddhad treth pa bynnag gynllun fyddwch chi'n ei ddewis. Fodd bynnag, os oes gennych chi drethdalwyr cyfradd uwch a chyfradd ychwanegol a bod eich cynllun yn defnyddio rhyddhad wrth ffynhonnell, bydd angen iddyn nhw hawlio eu rhyddhad treth llawn drwy gwblhau hunan arfarniad treth.

Fe allwch chi gael gwybodaeth am gyfradd treth incwm ar GOV.UK.

Pa gynlluniau sy'n defnyddio pob dull rhyddhad treth*

Cymorth o’r dechrau  Trefniant tâl net 
National Employment Savings Trust (NEST) Creative Pension Trust
The People’s Pension1
NOW: Pensions
True Potential Investments
Smart Pension Master Trust
Standard Life Workplace Pension2
The Lewis Workplace Pension Trust
  Workers Pension Trust

1 Gostyngiad o'r tarddle ydy'r dewis diofyn ond mae'n bosib fod rhai cyflogwyr wedi dewis Oed Pensiwn Arferol (NPA) yn lle hynny.
2 Mae'n bosib y bydd cyflogwyr sylweddol yn defnyddio'r cynllun ar sail ymddiriedolwyr sy'n ymdrîn â Oed Pensiwn Arferol (NPA). (Mae'r Cynllun Grŵp Pensiwn Unigol (GPP) yn defnyddio Gostyngiad o'r Tarddle (RAS). 

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am gynlluniau eraill ar gyfer cofrestru awtomatig ar y gwefan canlynol:

Efallai y bydd cynlluniau pensiwn yn cynnig gwasanaethau ychwanegol ichi, fel gweithio allan pwy sydd angen ei gofrestru ar gynllun pensiwn, prosesu ceisiadau i ymuno â'r cynllun neu helpu gyda'ch dyletswyddau cyfredol. Dylech chi ystyried oes arnoch chi angen y gwasanaethau hyn.

Dylech chi hefyd ystyried:

Meddalwedd cyflogres

Os ydych yn defnyddio meddalwedd cyflogres, gofynnwch i ddarparwr eich cyflogres a ydy o’n cyd-fynd â’r cynllun pensiwn yr hoffech ei ddefnyddio. Fe ddylech wirio a oes modd i’r meddalwedd wneud yr holl dasgau ar gyfer cofrestru awtomatig. Dysgwch fwy a gwiriwch fod eich proses cyflogres wedi'i osod ar gyfer cofrestru awtomatig.

Ysgrifennu at eich gweithwyr

Mae angen ichi ysgrifennu at eich staff ar wahân i egluro sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw, gan gynnwys sut mae rhyddhad treth yn gweithio. Mae’n bosib y bydd rhai cynlluniau pensiwn yn cynnig gwneud hyn ar eich rhan. Os nad ydy’ch cynllun yn gwneud hyn, mae gennym ni enghreifftiau o lythyrau y gallwch eu defnyddio. Neu efallai y bydd darparwr eich cyflogres yn cynnig y gwasanaeth yma.

Os nad ydy’r Saesneg yn iaith gyntaf i bob un o’ch gweithwyr, efallai yr hoffech ystyried a oes modd i’r cynllun gynnig cyfathrebu mewn ieithoedd eraill.

Cyfathrebu gyda'ch darparwr cynllun

Mae’n bwysig bydd darparwr y cynllun rydych yn ei ddewis yn cysylltu’n aml â’ch gweithwyr.

Gwiriwch fod y cynllun yn egluro'n eglur:

  • faint o arian mae’r gweithiwr wedi ei arbed
  • sut mae’r arian wedi ei fuddsoddi a beth ydy canlyniad y buddsoddi
  • beth fydd amcanion cyfanswm y cynilon erbyn i'r gweithiwr ymddeol
  • faint o’r cyfraniadau fydd yn mynd at dalu costa
    a ydy cyfradd bresennol cynilon y gweithiwr yn debygol o alluogi iddo ymddeol fel y gobeithia.
  • ydyn nhw'n gymwys ar gyfer rhyddhad treth ar beth maen nhw'n ei dalu i'r cynllun ac os oes angen iddyn nhw wneud unrhyw beth i'w hawlio

Dewisiadau buddsoddi

Mae rhaid bod gan unrhyw gynllun rydych yn ei ddewis ar gyfer cofrestru awtomatig ‘drefniant buddsoddi awtomatig’. Dyma le fydd arian eich staff yn mynd iddo, oni bai eu bod nhw'n dewis eu buddsoddiadau eu hunain. Mae cap o 0.75% ar gost i fod yn aelod o gynllun pensiwn o gronfeydd yr aelodau drwy drefniadau buddsoddi awtomatig.

Efallai y bydd angen i chi ystyried a ydy’r cynllun yn cynnig buddsoddiadau sy’n addas ar gyfer anghenion penodol eich gweithwyr e.e. cronfeydd moesol neu rai sy’n unol â chyfraith Sharia.

Dod o hyd i gynllun pensiwn

Mae llawer o ffyrdd y gallwch ddod o hyd i gynllun pensiwn. Ewch i  ddewis cynllun pensiwn.

* Mae llawer iawn o gynlluniau pensiwn eraill sydd ar gael sydd heb eu rhestru ar y wefan hon. Efallai y bydd ffyrdd eraill hefyd i gynlluniau ddangos i gyflogwyr fod eu cynlluniau yn rhedeg yn dda. Dydy hi ddim yn gyfrifoldeb arnom ni i wirio fod honiadau cynlluniau yn gywir.

Ni allwn ni argymell na chefnogi unrhyw gynllun pensiwn na sefydliad penodol. Dydy cynnwys unrhyw gynllun neu sôn am unrhyw sefydliad ar y wefan hon ddim yn sicrhau eu bod nhw'n addas. Mae'r tudalennau gwe hyn wedi'u darparu er mwyn rhannu gwybodaeth a chyfarwyddyd yn unig.