Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Ymrestru Awtomatig ar gyfer staff tymhorol neu staff dros dro

Bydd yn rhaid i bob cyflogwr ymrestru rhai staff penodol ar gynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato. Gelwir hyn yn ymrestru awtomatig.

Bydd angen ichi fynd ati i gyflawni eich dyletswyddau ar eich dyddiad gosod, sef gwirio oedran ac enillion eich holl aelodau o staff i weld pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn. Bydd angen ichi wneud hyn pob tro byddwch yn talu eich staff.

Os ydych yn cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, mae'n bosib y bydd y broses o asesu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn fwy cymhleth, yn fwy o ymdrech ac yn cymryd mwy o amser. Mae hyn oherwydd bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth y canlynol:

  • eu henillion ac oriau amrywiol
  • y mae'n bosib y byddan nhw'n ymuno â'ch cwmni ac yn gadael eich cwmni ar ganol cyfnodau talu neu
  • mae'n bosib eu bod nhw ond yn gweithio ichi am gyfnodau byr

I ofalu fod y broses yn haws ichi ac i arbed amser, fe ddylech chi wirio a oes modd i'ch meddalwedd cyflogres fod o help a gallwch ystyried gohirio er mwyn gohirio'r broses o benderfynu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

I wybod mwy am ymdrin â staff tymhorol, gan gynnwys gwirio eich meddalwedd a gohirio, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau:

www.tpr.gov.uk/tymhorol