Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrîn
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r wefan hon yn unig, yn benodol y parthau dilynol:
- thepensionsregulator.gov.uk
- tpr.gov.uk
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fe wyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Mae dau brif fater yn benodol a allai gael effaith ar rai defnyddwyr:
- tagio PDF
- rhai cydrannau ddim yn weithredadwy ar y bysellfwrdd
Beth i'w wneud os na allwch gyrchu rhannau o'r wefan hon
Os oes arnoch angen gwybodaeth ynghylch y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille cysylltwch â ni.
Byddwn yn cydnabod eich cais o fewn pum niwrnod gwaith ac yn ymateb i chi o fewn 20 niwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd y wefan hon
Mae TPR wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Heb gydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Problem a nodwyd | Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 AA | Pryd rydym yn bwriadu ei hatgyweirio |
---|---|---|
Mae gan rai delweddau werthoedd amhriodol ar gyfer eu priodoleddau ‘alt’ na fydd yn ystyrlon i ddefnyddwyr darllenwyr sgrîn. |
1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun) |
Erbyn Medi 2020 |
Ni ddefnyddir elfennau pennawd ar gyfer elfennau testun sy'n gweithredu fel penawdau gweledol, neu maent ar goll o gydrannau. Mae angen marcio ychwanegol ar dablau data i helpu defnyddwyr darllenwyr sgrîn i ddeall y wybodaeth. Rhaid tagio dogfennau PDF. Rhaid i elfennau iframe a ddefnyddir ar gyfer cynnwys fideo fod â phriodoleddau ‘teitl’. Mae angen strwythur semantig pellach ar y llwybr briwsion bara. Ar dudalen y canlyniadau chwilio dim ond ar gyfer cynnwys hunangynhwysol y dylid defnyddio'r tag erthygl. |
1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) |
Erbyn Medi 2020 |
Mae'r hidlwyr chwilio yn dilyn y canlyniadau yn y drefn ddarllen felly ni fydd rhai defnyddwyr darllenwyr sgrîn yn ymwybodol eu bod yn bresennol. |
1.3.2 (dilyniant ystyrlon) |
Erbyn diwedd 2019 |
Nid yw'r dangosydd ffocws yn cyflenwi digon o gyferbynnedd lliw. |
1.4.11 (cyferbynnedd nad yw’n destun) |
Erbyn diwedd 2019 |
Nid yw rhai cydrannau'n cyflenwi digon o gyferbynnedd lliw. |
1.4.3 (cyferbynnedd lliw) | Erbyn diwedd 2019 |
Nid yw'r offer llywio ar y dudalen yn weithredadwy ar y bysellfwrdd. Nid yw'r rheolyddion acordion yn weithredadwy ar y bysellfwrdd. Nid yw rheolydd y ddewislen lywio cynllun symudol yn weithredadwy ar y bysellfwrdd. |
2.1.1 (llywio ar y bysellfwrdd) | Erbyn diwedd 2019 |
Nid oes mecanwaith i osgoi'r prif lywio felly bydd rhaid i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig dabio trwy'r holl ddolenni llywio. |
2.4.1 (osgoi rhwystrau) |
Erbyn diwedd 2019 |
Mae'r dolenni yn y dewislenni llywio sy’n ymddangos o’r ochr yn cael eu darllen gan feddalwedd darllenydd sgrîn, p'un a ydyn nhw'n cael eu dangos ar y sgrîn ai peidio. Gall y label ar gyfer yr elfen fewnbwn chwilio achosi problemau i rai technolegau cynorthwyol. Mae delweddau SVG yn derbyn ffocws bysellfwrdd yn Internet Explorer 11. Nid yw iaith y ddogfen wedi'i gosod yn y PDFs. |
2.4.3 (trefn ffocysu) |
Erbyn diwedd 2019
Erbyn diwedd 2020 |
Gall diffygion cydymffurfio HTML gael effaith ar hygyrchedd y dudalen. |
4.1.1 (dadansoddi testun yn gydrannau) |
Erbyn diwedd 2019 |
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn diwallu safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrîn. Nid yw hyn yn diwallu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl).
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs â gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei wneud yn ofynnol i ni atgyweirio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu atgyweirio dogfennau ymchwil hŷn.
Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn diwallu safonau hygyrchedd.
Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon
Profwyd y wefan hon ddiwethaf rhwng 10 Gorffennaf a 6 Awst 2019. Cynhaliwyd y prawf gan gwmni o'r enw net-progress.
Fe wnaethom archwilio 25 tudalen (23 tudalen HTML a dwy ddogfen PDF). Fe wnaethom ddewis y sampl hon o dudalennau i gynnwys cymaint â phosibl o wahanol fathau o gynnwys a chynulleidfaoedd.
Fe wnaethom brofi'r tudalennau dilynol:
- Hafan
- Cyflogwyr
- Cyflogwyr cam 2
- Ail-gofrestru
- Cam 1. Dewis cynllun pensiwn
- Ymddiriedolwyr
- Cyfamod cyflogwyr: trosolwg
- Cod 13: Llywodraethu a gweinyddu cynlluniau galwedigaethol sy'n seiliedig ar ymddiriedolaeth sy'n darparu buddion prynu arian
- Hyb y cyfryngau
- Canlyniadau chwilio
- Dadansoddiad Cyllido'r Cynllun 2019
- Cynllun Corfforaethol 2019 – 2022
- 13. Swyddi Gwag Cyfredol
- Dadansoddwr Busnes Cyswllt
- Gwybodaeth a ryddhawyd yn ddiweddar
- Ymgynghoriadau
- Canllaw cyflym ar fesur eich data
- Buddsoddiad DB
- Llywodraethu Buddsoddiad DB
- Buddsoddi i gyllido DB
- Paru asedau DB
- Asedau twf DB
- Gweithredu strategaeth fuddsoddi DB
- Monitro buddsoddiadau DB
- Cyfarwyddyd buddsoddi
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn datblygu map ffordd hygyrchedd i ddangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.
Bydd y wefan yn cael ei hail-brofi gan net-progress ar ôl i ni wneud y newidiadau a argymhellir yn eu hadroddiad ar hygyrchedd.
Rydym yn profi'r holl gydrannau, templedi ac ymarferoldeb newydd fel mater o drefn i sicrhau eu bod yn hygyrch cyn i ni eu defnyddio ar y wefan.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwasanaeth monitro perfformiad awtomataidd i'n rhybuddio am unrhyw faterion sylweddol ynghylch hygyrchedd.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu nifer o'n his-barthau hŷn a byddwn yn darparu eglurder pellach ar statws eu hygyrchedd yn 2020.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2019.
Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2019.