Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cyfarwyddwyr a chofrestru awtomatig - oes gennych chi ddyletswyddau?

Os mai dim ond cyfarwyddwyr sydd gennych chi a dydych chi ddim yn cyflogi unrhyw aelodau eraill o staff, bydd cael gwybod a oes gennych chi ddyletswyddau cofrestru awtomatig yn dibynnu ar eich swyddogaethau ac os oes gennych chi gytundebau gwaith.

Mewn rhai achosion efallai y bydd cyfarwyddwyr wedi'u heithrio o ddyletswyddau cofrestru awtomatig, hyd yn oed os oes ganddyn nhw gytundeb gwaith. Mae hyn oherwydd yn yr achosion hyn ni chaiff y cyfarwyddwr ei gyfrif yn aelod o staff.

Pryd mae cofrestru awtomatig yn berthnasol i gyfarwyddwr?

Bydd gennych chi ddyletswyddau cofrestru awtomatig:

  • os oes gan y cyfarwyddwr gytundeb gwaith gyda'ch sefydliad ac mae gan o leiaf un person arall (gall fod yn gyfarwyddwr arall neu yn aelod o staff) hefyd gytundeb gwaith gyda'ch sefydliad
  • os oes gennych chi fwy nag un cyfarwyddwr a dim aelodau eraill o staff - a bod gan o leiaf dau gyfarwyddwr gytundebau gwaith - bydd yr holl gyfarwyddwyr sydd â chytundebau gwaith yn aelodau o staff ac yn berthnasol ar gyfer dyletswyddau cofrestru awtomatig

Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein er mwyn darganfod beth sydd arnoch chi angen ei wneud ac erbyn pryd.

Pryd tydy cofrestru awtomatig ddim yn berthnasol i gyfarwyddwr?

Fydd gennych chi ddim dyletswyddau cofrestru awtomatig:

  • os nad oes gan gyfarwyddwr gytundeb gwaith, ni chaiff ei ystyried yn aelod o staff a does dim angen ei asesu ar gyfer cofrestru awtomatig - fodd bynnag, os oes gennych chi aelodau eraill o staff, rydych chi'n gyflogwr ac mae gennych chi ddyletswyddau dros y staff hyn - hyd yn oed os nad ydy'r un o'r staff hyn yn cwrdd â'r meini prawf oedran ac enillion er mwyn eu cofrestru ar gynllun pensiwn mae'n rhaid ichi gwblhau datganiad cydymffurfio
  • os mai dim ond cyfarwyddwyr heb gytundebau gwaith sydd gan eich sefydliad a dim aelodau eraill o staff
  • os mai dim ond un cyfarwyddwr gyda chytundeb gwaith sydd gan eich sefydliad a dim aelodau eraill o staff

Dywedwch wrthym nad ydych yn gyflogwr

Yn yr achosion hyn bydd angen ichi gwblhau'r ffurflen ar -lein [er mwyn dweud wrthym ni nad ydych chi'n gyflogwr] dim ond os byddwch chi'n derbyn llythyr gennym ni.

Dywedwch wrthym nad ydych yn gyflogwr

Eithriad i gyfarwyddwr sy'n aelod o staff

Os ydych chi wedi dweud bod cyfarwyddwr yn aelod o staff a'u bod nhw'n cwrdd â'r meini prawf oedran ac enillion er mwyn eu cofrestru ar gynllun pensiwn, fe gewch chi ddewis eu rhoi ar gynllun ai peidio ond mae'n rhaid ichi gwblhau datganiad cydymffurfio.

Fodd bynnag, mae ganddyn nhw'r hawl i ofyn i ymuno â chynllun pensiwn (dewis optio i mewn) ar unrhyw adeg ac, os ydyn nhw, allwch chi ddim gwrthod eu rhoi ar gynllun pensiwn (oni bai eich bod chi wedi penderfynu eithrio pobl yn eu cyfnod rhybudd, gan eu bod nhw yna'n colli'r hawl i ofyn i gael cofrestru â'ch cynllun pensiwn).

Beth os ydym ni'n gwpwl priod/partneriaid sifil?

Does dim rheolau arbennig i gyfarwyddwyr sydd wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil,gan na chaiff y dyletswyddau eu heffeithio gan unrhyw berthynas teuluol.

Beth os ydw i'n dechrau cyflogi rhywun sydd ddim yn gyfarwyddwr?

Os ydych chi'n cyflogi aelod o staff sydd ddim yn gyfarwyddwr bydd gennych chi ddyletswyddau ar gyfer cofrestru awtomatig.

Unwaith bydd eich amgylchiadau yn newid a bod dyletswyddau cofrestru awtomatig yn berthnasol, bydd angen ichi ddweud wrthym am hyn cyn gynted â phosibl.

Er enghraifft, os ydych chi'n cyflogi aelod o staff ar wahân i gyfarwyddwr neu os bydd o leiaf dau gyfarwyddwr yn dechrau gweithio ichi dan gytundebau gwaith.

Bydd eich dyletswyddau yn dechrau pan fyddwch chi'n cyflogi eich aelod cyntaf o staff sydd ddim yn gyfarwyddwr a chyda cytundeb gwaith.