Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Osgoi gwallau cyffredin yn nyletswyddau pensiwn yn y gweithle

Mae ein hymchwiliadau wedi canfod bod rhai cyflogwyr yn gwneud camgymeriadau cyffredin drwy hepgor camau pwysig o ran cyfrifo cyfraniadau pensiynau a chyfathrebu i staff.

Mae'r gwallau allweddol yn cynnwys:

  • defnyddio trothwyon enillion anghywir
  • gwallau mewn cyfathrebu i staff am gofrestru awtomatig
  • camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth

Defnyddio trothwyon enillion anghywir

Bob blwyddyn, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adolygu'r trothwyon enillion ar gyfer cofrestru'n awtomatig. Rydym yn diweddaru trothwyon enillion ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol gyda'r trothwyon newydd wedi i'r Adran Gwaith a Phensiynau eu cyhoeddi.

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn defnyddio'r trothwyon enillion cywir gan y gallai camgymeriadau yma roi eich staff mewn perygl o beidio â derbyn y cyfraniadau pensiynau sy'n ddyledus iddynt.

Camgymeriadau mewn cyfathrebu i staff

Byddwch yn ymwybodol hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru staff cymwys yn llwyddiannus yn eich cynllun pensiwn a gwneud cyfraniadau rheolaidd, gallai gwallau yn eich cyfathrebiadau i staff eich rhoi mewn perygl o beidio â chydymffurfio.

O fewn 6 wythnos ar ôl i ddyddiad dechrau eich dyletswyddau, eich dyletswydd gyfreithiol chi yw ysgrifennu at eich holl staff yn unigol i egluro sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddynt.

Dylech sicrhau eich bod yn gwirio'n gwybodaeth ar ysgrifennu at eich staff. Defnyddiwch ein templedi llythyr i'ch helpu i gyfathrebu i'ch staff.

Camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth

Os yw'n berthnasol, dylech wirio'n rheolaidd canllawiau'r Llywodraeth ar dâl mamolaeth oherwydd gall gamgyfrifo hyn effeithio ar gyfraniadau pensiynau.

Sut i osgoi gwallau cyffredin

Sicrhewch eich bod yn osgoi gwneud y gwallau cyffredin hyn gan y gallent eich rhoi mewn perygl o beidio â chydymffurfio a gallent fod yn gostus.  Er enghraifft, bydd angen i chi ôl-ddyddio'r holl daliadau ar gyfer eich staff sydd wedi bod yn derbyn cyfraniadau anghywir ac mewn rhai achosion gall y camgymeriadau hyn arwain at gosbau ariannol.

Dylech chi:

  • wirio'ch dyletswyddau parhaus i osgoi hepgor camau pwysig
  • wrth gwblhau ail-gofrestru, y mae'n rhaid i chi ei wneud bob tair blynedd, dylech wirio bod eich systemau a'ch prosesau yn gyfredol ac yn rhedeg yn llyfn.

Cofiwch, ail-gofrestru ac ail-ddatgan yw eich dyletswyddau cyfreithiol ac os nad ydych yn gweithredu fe allech gael dirwy.

Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o gyflogwyr eisiau gwneud y peth iawn i'w staff.  Ceisiwch osgoi dirwyon anfwriadol a/neu hysbysiadau cosb drwy ddilyn y canllawiau perthnasol ar ddyletswyddau pensiwn yn y gweithle i gyflogwyr.