Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cam 3 Ysgrifennu at eich gweithwyr

Mae'n rhaid ichi wneud hyn ymhen 6 wythnos o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau.

O fewn chwe wythnos o’ch dyddiad dechrau dyletswyddau, mae’n ddyletswydd arnoch yn ôl y gyfraith i ysgrifennu at bob gweithiwr yn unigol ac egluro sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddo fo.

Mae'n bosib y bydd eich darparwr pensiwn yn fodlon ysgrifennu at eich staff ichi, neu fel arall gallwch ddiwygio'r templedi llythyrau enghreifftiol isod:

Gweithwyr y mae rhaid eu rhoi ar gynllun

YHefyd bydd angen ichi gynnwys y mewnosodiad pan fyddwch yn anfon llythyrau at staff y mae’n rhaid eu cofrestru ar gynllun pensiwn.

Enghraifft o lythyr ar gyfer gweithwyr sy’n mynd ar gynllun (DOC, 25.5kb, 1 dudalen)

Templed llythyr ar gyfer staff caiff eu hymrestru ar gynllun pensiwn ond sydd ddim yn derbyn ostyngiadau treth (DOC, 25.5kb, 1 dudalen)

Defnyddiwch y templed yma os ydy'r aelod o staff rydych wedi eu hail-ymrestru ddim yn derbyn gostyngiadau treth ar eu cyfraniadau oherwydd bod eich cynlluniau pensiwn yn defnyddio cytundeb taliadau net. Gwelwch mwy am y cynlluniau er mwyn gwybod mwy am ostyngiadau treth.

Cynnwys ynghlwm â thempled llythyr ar gyfer y rheiny y mae gofyn iddyn nhw gofrestru ar gynllun pensiwn.

Gweithwyr nad oes rhaid i mi eu rhoi ar gynllun

Templed Llythyr mewn ieithoedd eraill

Gallwch weld ein llythyrau templed wedi eu cyfieithu i dros 20 iaith – gan gynnwys Bwlgareg, Pwyleg a Rwmaneg – ar ein tudalen llythyrau templed ar gyfer cofrestru awtomatig.

Gweithwyr yr ydw i’n gohirio eu hymrestru

ae templed llythyr ar wahân os ydych yn bwriadu gohirio’r broses.

Beth nesaf?

Fe fydd y cam nesaf yn helpu i chi gwblhau eich datganiad cydymffurfio.