Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn

Rhaid i chi gwblhau a chyflwyno eich ailddatganiad o gydymffurfiad o fewn pum mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol. Ni fydd eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan ddim yn newid os ydych chi'n dewis dyddiad arall ar gyfer asesu'ch staff.

Mae'r ail-ddatganiad cydymffurfio yn ffurflen ar-lein ichi roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni'ch dyletswyddau cyfreithiol.

Hyd yn oed oes os rhywun arall (aelod o staff neu gynghorydd busnes) wedi eich helpu gyda'ch dyletswyddau, ac o bosib yn cwblhau'r ail-ddatganiad ichi, eich dyletswydd gyfreithiol chi fel y cyflogwr ydy gofalu caiff yr ail-ddatganiad ei gwblhau mewn pryd a bod yr wybodaeth yn gywir. Os nad ydych chi'n cydymffurfio gyda hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwyon.

Os oes gennych chi'r holl wybodaeth berthnasol i law, gall gymryd cyn lleied â 15 munud ichi gwblhau eich ail-ddatganiad.

Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus eraill ar ran eich staff fydd angen eu cwblhau.


Dechrau eich ail-ddatganiad rŵan

Er bod gennych bum mis i gwblhau eich ailddatganiad, rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl trydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol. Bydd angen eich cyfeirnod PAYE arnoch a naill ai eich cod llythyr neu gyfeirnod eich swyddfa gyfrifon i gychwyn arni.

Dechrau arni

Enghraifft o ddyddiad cau ar gyfer ail-ddatganiad

Dyddiad ailgofrestru blaenorol 01 Tach 18

Trydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol

01 Tach 21
Dyddiad cau ar gyfer eich ail-ddatganiad
31 Mawrth 22

Rhestr wirio ar gyfer ail-ddatgan

Is this page useful?

Thanks for your feedback.