Ailgofrestru nesaf
Yr wyf yn gyflogwr gyda staff i'w rhoi yn ôl yn fy nghynllun pensiwn
Yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych wedi'i chyflwyno, mae angen ichi ail-gofrestru rhai staff ar eich cynllun pensiwn. Mae'n rhaid ichi gyflawni'r ddau gam isod, sef cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
Cofiwch, mae'r rhain yn ddyletswyddau cyfreithiol arnoch chi ac os na wnewch chi eu cyflawni mewn pryd mae'n bosib y cewch chi ddirwy.
Mae hefyd gofyn ichi barhau gyda'ch dyletswyddau parhaus eraill.
Cam 1: Ailgofrestru
Cam 2: Ail-ddatganiad
Cwblhau eich Ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn
Defnyddiwch ein rhestr wirio ar gyfer ail-ddatgan (PDF, 660kb, 2 dudalen) i gwblhau eich ail-ddatganiad i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
Gwnewch hyn o fewn 5 mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.
Bydd angen eich cyfeirnod PAYE arnoch a naill ai eich cod llythyr neu gyfeirnod eich swyddfa gyfrifon i gychwyn arni.
Osgoi gwallau cyffredin mewn dyletswyddau pensiwn
Canfyddwch sut gallwch chi osgoi gwneud nifer o wallau cyffredin mewn dyletswyddau pensiwn. Mae gwallau allweddol yn cynnwys defnyddio trothwyon enillion anghywir a chamgyfrifo cyfraniadau ar gyfer staff sy’n derbyn tâl mamolaeth.