2. Ysgrifennu at staff rydych wedi'u hail gofrestru ar eich cynllun pensiwn
Bydd hefyd gofyn ichi ysgrifennu at bob aelod o staff y mae angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn i roi gwybod am yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe wythnos i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol (neu'r dyddiad diweddarach y dewisoch asesu eich staff). Does dim rhaid ichi ysgrifennu at unrhyw staff nad ydych yn eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.
Mae'n bosib y bydd eich darparwr pensiwn yn fodlon gwneud hyn ar eich rhan, neu gallwch ddiwygio ein templedi llythyrau enghreifftiol.
Mae'n bosib y bydd eich darparwr pensiwn yn fodlon gwneud hyn ar eich rhan, neu gallwch ddiwygio ein templedi llythyrau enghreifftiol.
- Templed llythyr ar gyfer staff caiff eu gofrestru ar gynllun pensiwn ond sydd ddim yn derbyn gostyngiadau ar dreth
Word 38KB - Defnyddiwch y templed yma os ydy'r aelod o staff rydych wedi eu hail-gofrestru ddim yn derbyn gostyngiadau treth ar eu cyfraniadau oherwydd bod eich cynlluniau pensiwn yn defnyddio cytundeb taliadau net.
Gwelwch mwy am y cynlluniau er mwyn gwybod mwy am ostyngiadau treth.
Beth nesaf?
Mae'n rhaid ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio.
Rydym ni angen eich cyfeiriad e-bost
- Derbyn rhybuddion e-bost pwysig am eich dyletswyddau a dyddiadau cau
- Enwebu cyswllt os yw rhywun yn eich helpu gyda’ch dyletswyddau
- Diweddaru/gwirio’ch manylion cyswllt a’u bod yn gyfredol