Os ydych yn cyflogi staff lle mae eu horiau a thâl yn amrywio, bydd y swm y byddan nhw'n ei ennill yn amrywio pob tro byddwch chi'n eu talu. Gall hyn effeithio ar pryd fyddan nhw'n bodloni'r meini prawf er mwyn eu hymrestru ar gynllun pensiwn a'r cyfanswm y bydd angen ichi ei dalu at y cynllun (cyfraniadau) unwaith y byddan nhw wedi eu hymrestru.
Bydd angen ymrestru unrhyw staff, rhwng 22 ac oed pensiwn gwladol sy'n ennill mwy na'r meini prawf o ran enillion o £192 yr wythnos neu £833 y mis, ar gynllun pensiwn y bydd angen ichi ei gyfrannu tuag ato hefyd.
Beth os ydy enillion fy staff yn amrywio?
Beth os ydy'r staff yn bodloni'r meini prawf o ran enillion ar sail 'unwaith yn unig'?
Mae'n bosib y bydd gennych chi staff sy'n bodloni'r meini prawf o ran enillion ar sail 'unwaith yn unig', o ganlyniad i dâl ychwanegol neu weithio oriau ychwanegol. Fe allwch chi ohirio'r broses o'u hymrestru ar gynllun. (Gelwir hyn yn ohiriad)
Os ydych chi'n ansicr ynghylch beth sydd angen ichi ei wneud, defnyddiwch ein hadnodd i'ch helpu gydag asesu eich staff lle mae eu horiau a'u tâl yn amrywio a gweld beth sydd angen ichi ei wneud nesaf.
Pa fath o dâl ddylwn i ei gynnwys yn yr asesiad?
Yn ogystal ag enillion neu gyflog y staff, bydd angen ichi gynnwys y mathau canlynol o daliadau yn eich asesiad:
- Comisiwn
- Tâl Ychwanegol
- Tâl am Oriau Ychwanegol
- Tâl Salwch Statudol
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol Arferol neu Ychwanegol
- Tâl Mabwysiadu Statudol
Faint sydd angen ei gyfrannu tuag at gynllun pensiwn?
Yn ôl y gyfraith, mae lleiafswm y mae'n rhaid ichi ei gyfrannu tuag at gynllun pensiwn. Mae hyn yn ganran o enillion eich staff a chanran gennych chi, y cyflogwr.
Bydd angen ichi gyfrifo cyfanswm y cyfraniadau bob tro byddwch chi'n talu eich staff. Wrth i oriau a thâl eich staff amrywio, bydd y cyfraniadau yn cynyddu a gostwng yn dibynnu ar faint y mae'r staff yn ei ennill.
Dysgu mwy am gyfrannu, y lleiafswm a'r canrannau.
Oes lleiafswm tâl lle na fydd yn rhaid cyfrannu tuag at y cynllun pensiwn?
Os ydy eich staff wedi eu hymrestru ar gynllun pensiwn ac mae eu henillion yn is na £192 yr wythnos (£833 y mis) yn ystod cyfnod tâl ond yn aros yn uwch na £120 yr wythnos (£520 y mis) bydd dal angen ichi dalu cyfraniadau.
Os ydy eich staff yn ennill llai na'r swm yma, mae'n bosib na fydd angen ichi gyfrannu o gwbl ac mae hawl ganddyn nhw barhau i fod yn rhan o'r cynllun yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd hyn yn dibynnu ar reolau'r cynllun pensiwn felly fe ddylech chi drafod hyn gyda'ch darparwr pensiwn.
Beth all fod o help wrth asesu'r staff?
Dewis y meddalwedd cyflogres addas
Gall feddalwedd cyflogres sy'n cynnig nodwedd ymrestru awtomatig fod o help. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd yn asesu staff yn awtomatig bob tro fyddwch chi'n eu talu ynghyd â chyfrifo'r cyfraniadau ichi. Mae'n bwysig felly eich bod yn dod o hyd i'r feddalwedd addas ichi wnaiff ddiwallu eich anghenion.
Mwy o wybodaeth am wirio eich proses cyflogres.
Gohirio
Gallwch ohirio'r broses o bennu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun (y term am hyn ydy gohiriad) ar y dyddiad y bydd aelod o staff yn bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion am y tro cyntaf.
Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi'n gwybod bod eu henillion wedi cyrraedd eu huchafbwynt ar sail unwaith yn unig, neu os oes gennych chi staff fydd yn gweithio ichi am lai na thri mis.
Gallwch ohirio am hyd at dri mis ac ni fydd angen ichi asesu'r staff tan ddiwedd y cyfnod gohirio.
Mwy o wybodaeth am ohirio.