Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Wedi colli eich dyddiad dechrau dyletswyddau

Os ydych chi wedi colli eich dyddiad dechrau dyletswyddau, mi fydd yn dal angen ichi ddarganfod beth ydy eich dyletswyddau cofrestru awtomatig. Os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes, yna bydd angen ichi fynd ati'n syth i gydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol. Os ydych chi'n ansicr ynghylch eich dyletswyddau, defnyddiwch ein hadnodd ar-lein.

Beth sydd angen ichi ei wneud os nad ydych chi wedi cychwyn ar y broses ac mae eich dyddiad dechrau dyletswyddau wedi mynd heibio?

Os ydych chi wedi darganfod fod angen ichi gofrestru eich staff ar gynllun pensiwn, mi fydd yr hyn sydd angen ichi ei wneud yn dibynnu ar ba mor hwyr ydych chi'n sefydlu eich cynllun a chofrestru'ch staff arno.

Pan fyddwch chi wedi dewis eich darparwr pensiwn, bydd angen ichi gofrestru eich staff ar y cynllun pensiwn a dechrau cyfrannu tuag ato. Mae'n rhaid ichi ôl-ddyddio aelodaeth eich aelod o staff i'r cynllun i'r diwrnod y bu iddyn nhw fodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i fod yn rhan o gynllun. I wneud hyn, mae'n bosib y bydd angen ichi ôl-ddyddio cyfraniadau. Darllenwch sut i ôl-ddyddio cyfraniadau isod.

Gallwch hefyd ohirio er mwyn gohirio gorfod darganfod pwy i'w cofrestru ar gynllun, sy'n golygu na fydd angen ichi ôl-ddyddio cyfraniadau. Gallwch wneud hyn am hyd at dri mis, a fydd yn cynnig mwy o amser ichi gyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol os oes angen. Darganfod oes modd ichi ohirio.

Os oes gennych chi staff y mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn ac rydych chi wedi sefydlu eich cynllun dros chwe wythnos ar ôl eich dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi dalu unrhyw gyfraniadau y dylech chi fod wedi eu talu o'r dyddiad y bu i'ch aelod o staff fodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i fod yn rhan o gynllun pensiwn.

Bydd angen ichi gyfrifo'r cyfraniadau a'u hôl-ddyddio.

Sut i ôl-ddyddio cyfraniadau

Fe ddylech chi gyflawni'r camau canlynol er mwyn ôl-ddyddio unrhyw gyfraniadau coll:

  1. Pan fyddwch yn sefydlu'ch cynllun pensiwn, fe ddylech chi roi gwybod i'ch darparwr pensiwn fod angen ichi ôl-ddyddio cyfraniadau. Mae'n bosib y byddwch chi'n dymuno gwirio a oes modd iddyn nhw eich helpu i gyfrifo'r cyfanswm y bydd angen ichi ei ad-dalu a rhoi gwybod ichi beth sydd angen ei wneud er mwyn talu'r cyfraniadau.
  2. Bydd angen ichi gyfrifo faint sydd angen ichi ei ôl-ddyddio ac o ba ddyddiad. Gall feddalwedd Cyflogres eich helpu gyda hyn os ydy o'n addas ar gyfer cofrestru awtomatig eisoes. Os ydych chi'n ansicr, fe ddylech chi wirio gyda'ch darparwr cyflogres.
  3. Ail-weithredwch eich proses cyflogres ar gyfer y cyfnod lle dylai fod eich staff wedi ei gofrestru ar gynllun pensiwn - y dyddiad lle bu iddyn nhw fodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru awtomatig. Gallwch ddod o hyd i'r meini prawf yn yr adran asesu staff. Fe ddylai hyn gynnig cyfanswm y cyfraniadau y mae angen ichi eu hôl-ddyddio. Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell cyfraniadau ar-lein i'ch helpu i amcangyfrif eich costau ar gyfer pob aelod o staff.
  4. Fel y cyflogwr, mae'n rhaid ichi dalu unrhyw gyfraniadau cyflogwr sy'n ddyledus ac mae'n rhaid i'ch aelod o staff dalu eu cyfraniadau dyledus nhw, oni bai eich bod chi yn dewis eu talu ar eu rhan. Fel rhan o unrhyw gamau gorfodi, mae'n bosib y byddwn yn gofyn ichi dalu cyfraniadau eich staff ynghyd â'ch cyfraniadau chi. Fe ddylech chi roi gwybod i'ch staff am yr hyn yr ydych yn ei wneud.
  5. Yna bydd yn rhaid ichi roi gwybod i'ch cynllun pensiwn y cyfanswm cyfraniadau sy'n ddyledus. Mae'n bosib y byddan nhw'n caniatáu ichi, a'ch aelod o staff, dalu'r cyfraniadau mewn rhandaliadau ond mae'n rhaid ichi wirio gyda'r cynllun ydy hyn yn opsiwn.
  6. Yn dibynnu ar beth rydych chi wedi ei gytuno arno gyda'ch darparwr pensiwn, bydd angen ichi fynd ati i gyfrannu.
  7. Bydd yn rhaid ichi dalu'r cyfraniadau cyflogwr a staff yn barhaol tuag at eich cynllun pensiwn dewisol pob tro byddwch yn rhedeg eich cyflogres.

Os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes, mae'n rhaid ichi ddewis cynllun pensiwn.

Dewis cynllun pensiwn nawr